Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno  Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 2021:

“Showing true colours: the changing politics of race equality in Wales”.

Siaradwraig: yr Athro Charlotte Williams OBE (Athro er Anrhydedd, Prifysgol Bangor)

Mae’r ddarlith yn ystyried rhai o’r prif droeon a newidiadau ym maes cydraddoldeb hil yn ystod yr 20 mlynedd ers datganoli, gan edrych yn ôl ar honiadau hanesyddol o oddefgarwch, cydwladoldeb a chynhwysiant yn rhan o ymdeimlad cenedlaethol ac edrych ymlaen at ystyried pa mor gryf fyddai rhyw symud penodol oddi ar wleidyddiaeth hil ehangach y Deyrnas Gyfunol.