Gwybodaeth am y digwyddiad
Mae’r digwyddiad hanner diwrnod hwn yn cynnig cyfle i drafod natur strategol bargeinion dinesig a dysgu gan ymchwil ac ymarfer ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Bydd siaradwyr y digwyddiad yn amlygu goblygiadau polisi allweddol bargeinion dinesig ac yn ysgogi trafodaeth am yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgîl y strwythurau newydd hyn.
Mae’r digwyddiad yn dechrau gyda chinio rhwydweithio, ac mae wedi’i anelu at lunwyr penderfyniadau, y rhai sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol, busnesau ac ymchwilwyr academaidd.
Caiff y digwyddiad ei drefnu ar y cyd rhwng Academi Morgan Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).
12:15 | Cofrestru a chinio |
13:00 | Croeso a Chyflwyniadau gan Dr Aled Eirug (Academi Morgan) – “Beth yw Academi Morgan?” |
13:05 | Yr Athro David Blackaby, Prifysgol Abertawe – Economi Cymru |
13:30 | Prif siaradwr: Dr David Beel, Prifysgol Metropolitan Manceinion – Lleoli Bargeinion Dinesig yng Nghymru a Bae Abertawe |
14:00 | Prif siaradwr: Yr Athro Andy Pike, Athro Astudiaethau Datblygu Rhanbarthol, Prifysgol Newcastle – Dysgu gan Fargeinion Dinesig |
14:30 | Prif siaradwr: Andrew Carter, Prif Weithredwr Centre for Cities – Effaith Bargeinion Dinesig |
15:00 | Prif siaradwr: Dr Tim Williams, ARUP Awstralia ac Arweinydd Dinasoedd Awstralia, a Chadeirydd Open Cities – Beth All Bargeinion Dinesig ei Gynnig? |
15:30 | Prif siaradwr: Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru |
16:00 | Yr Athro Mark Barry, Prifysgol Caerdydd – Strategaeth Trafnidiaeth ar gyfer Bargeinion Dinasoedd |
16:30 | Panel Holi ac Ateb (Siaradwyr Gwadd) |
17:30 | Sylwadau i gloi, gair o ddiolch, a’r camau nesaf – Dr Aled Eiurg/yr Athro David Blackaby WISERD |
Manylion
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y digwyddiad, cysylltwch â Laura Wood, L.P.Wood@swansea.ac.uk