Yn y gweithdy hwn, byddwn yn archwilio dulliau o adrodd stori ym maes ymchwil lles. Er bod ‘adrodd straeon’ yn ymadrodd a ddefnyddir yn aml sy’n berthnasol i sawl disgyblaeth, nid oes fawr o gonsensws o ran beth yn union rydym yn ei olygu pan fyddwn yn trafod ‘adrodd straeon’ mewn cyd-destun lles, beth sy’n gwneud dull adrodd straeon yn un da, a sut i ddatblygu ymchwil ‘adrodd straeon’ foesegol. Drwy ymarferion a thrafodaethau, byddwn yn archwilio sut rydym wedi defnyddio dulliau adrodd stori yn ein hymarfer ein hunain, pwyntiau cyffredin a meysydd ar gyfer cydweithio ar draws y rhwydwaith.