Nod y symposiwm undydd hwn yw trafod a thrafod amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â mudo

Prif siaradwr – Dr Kathy Burrell (Prifysgol Lerpwl): Unsettling Freedom of Movement? Hostile Environments, Conditionality, and the Experiences of Polish migrants on the Eve of Brexit

 

Amcan

Gellir crynhoi’r ddegawd ddiwethaf fel oes gynhyrfus. Sylwyd ar lymder, gwleidyddiaeth popiwlistaidd, a hinsawdd gynyddol atgas ac estrongas ar draws Ewrop, gogledd America, a thu hwnt. Cynhyrfwyd y politicau hyn normau a disgwyliadau hegemonaidd gynt yn yr arena wleidyddol, gan godi goblygiadau ar gyfer mudwyr rhyngwladol, sy’n gweld eu bywydau’n dod yn gynyddol heriol a’u dyfodol yn fwyfwy ansicr. Targedwyd, er enghraifft, mudwyr, eu teuluoedd, myfyrwyr rhyngwladol, ymofynwyr lloches, a ffoaduriaid, gan osod cyfrifoldebau ac amodau ychwanegol arnynt gan gyfyngu ar eu hawliau. At hyn, tystia dychweliad preswylwyr hirdymor a diddymu dinasyddiaeth y graddau y gall ‘statysau a gymerwyd yn ganiataol’ gael eu newid. Cwestiyna’r arferion hyn y graddau gall preswyliaeth (‘denizenship’) – yr hawliau i breswylwyr nad ydynt yn ddinasyddion – barhau i fod yn gysyniad ystyrlon, ynghyd a phwysleisio’r goblygiadau ar gyfer hyrwyddo cymdeithas gydlynol, gynhwysfawr, ac amrywiol.

 

Mae’r trefnwyr yn gwahodd cyfraniadau ar hyd nifer o themâu a meysydd, gan gynnwys:

  • Mudo a bregusrwydd
  • Negodi ansicrwydd ac atgasedd
  • Perthyn, angori, a hunaniaeth
  • Cymdeithas sifil ac ymatebion cymunedol
  • Integreiddio mewn cymunedau letyol
  • Trosedd casineb, cydlynu, a chyfarfyddiadau siriol
  • Ffoaduriaid ac ymofynwyr lloches
  • Dinasyddiaeth a phreswyliaeth
  • Sefydliadau, gwyliadwriaeth ac amrywiaeth
  • Cynnwrf croestoriadol
  • Gobaith
  • Myfyrdodau methodolegol a moesegol ar astudio cynnwrf

 

Crynodebu

Dylid e-bostio crynodebau hyd at 250 gair at Rhys Dafydd Jones , Prifysgol Aberystwyth erbyn 1af Fehefin.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim

 

Bwrsariaethau

Cynigir nifer of fwrsariaethau, hyd at £50.00 ar gyfer uwchraddedigion a’r digyflog.  E-bostiwch Rhys Dafydd Jones am fanylion.