The Second Severn crossing

Noson o ddadlau a rhwydweithio fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), yr IWA a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn eich gwahodd chi i noson o ddadlau a rhwydweithio fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain.

Rhaglen:

Cyflwyniad – Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Bydd panel yn mynegi barn a chreu trafodaeth ar:

  • Dyfodol economi Cymru – Yr Athro Gerald Holtham, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Cymru: cenedl fyd-eang – Dr Elin Royles, WISERD, Prifysgol Aberystwyth
  • Y gymdeithas sifil yng Nghymru – Yr Athro Paul Chaney, WISERD, Prifysgol Caerdydd
  • Polisi, gwleidyddiaeth a datganoli – Auriol Miller, Cyfarwyddwr yr IWA

Sylwadau i gloi gan yr Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD

Ar ôl y drafodaeth, gobeithiwn bydd modd i chi ymuno â ni am ddiodydd, blysion a rhwydweithio.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Swyddog Digwyddiadau WISERD, Jane Graves, ar WISERD.events@cardiff.ac.uk