Mae polareiddio cymdeithasol yn broblem arwyddocaol, yn gynyddol felly, mewn nifer o gymunedau yng Nghymru. Mae gwahaniaethau o ran safbwyntiau ar faterion cymdeithasol mawr fel Brexit, COVID a mewnfudo, yn ogystal ag ynghylch dadleuon lleol yn ymwneud â chynlluniau traffig a datblygiadau o ran adeiladu, wedi rhoi straen ar berthnasoedd rhwng cymdogion ac wedi creu tensiynau sy’n gwanhau cydlyniant cymunedol a gallu cymuned i weithredu. Gweithdy undydd rhad ac am ddim yw hwn ar gyfer uwch wneuthurwyr penderfyniadau ac ymarferwyr yn y sector cyhoeddus a’r gymdeithas sifil sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol yng Nghymru, a’i nod yw datblygu cyfres o atebion i bontio gwahaniaethau o ran barn, y gall sefydliadau sy’n gweithio gyda chymunedau eu rhoi ar waith. Wedi’i hwyluso gan yr awdur ac ymgynghorydd blaenllaw ar bolareiddio, Alison Goldsworthy, bydd y rhaglen ryngweithiol yn archwilio beth yw polareiddio, sut a pham mae’n digwydd, a beth all grwpiau, busnesau a chyrff cyhoeddus y gymdeithas sifil ei wneud i’w wrthsefyll, gydag enghreifftiau o fentrau sy’n llwyddo. Bydd y digwyddiad yn cael ei lywio gan ymchwil a wnaed yn rhan o Ganolfan Ymchwil ar y Gymdeithas Sifil ESRC WISERD.

Fe’i trefnir ar y cyd gan WISERD a Chanolfan Deialog Prifysgol Aberystwyth, gyda chymorth cyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru.

Mae Alison Goldsworthy yn arbenigwr blaenllaw yn fyd-eang ym maes gwyddor polareiddio a’i effeithiau. Wedi’i geni a’i magu yn Ne Cymru, dechreuodd Ali ei gyrfa trwy fod yn ymgyrchydd gwleidyddol ac actifydd ar gyfer y gymdeithas sifil yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys bod yn Bennaeth Strategaethau ac Ymgysylltu ar gyfer Cefnogwyr yn Which?, a chynnal yr ymgyrch lwyddiannus dros optio allan o roi organau yng Nghymru. Symudodd i Galiffornia yn 2017 yn Gymrawd Sloan ym Mhrifysgol Stanford, ac yno bu iddi gyd-greu cwrs cyntaf y Brifysgol honno ar ddatbolareiddio. Cyd-sefydlodd y Prosiect Datbolareiddio a chyd-ysgrifennodd y llyfr, Poles Apart: Why People Turn Against Each Other (Penguin, 2021) gydag Alexandra Chesterfield a Laura Osborne; llyfr sydd wedi cael cryn ganmoliaeth. Mae Ali bellach yn Llywydd Accord, menter ar y cyd rhwng Grŵp MHP ac Influence at Work sy’n darparu ymgynghoriaeth ar gyfer corfforaethau a sefydliadau mawr ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth o bolareiddio a datblygu strategaethau gwrth-bolareiddio. Yn Uwch Gydymaith Ymchwil, mae’n parhau i gynghori Labordy Gwrthdaro a Polareiddio Stanford, ac mae’n Ddarlithydd gyda’r Fforwm Deallusol yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Caergrawnt, ac yn Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree Reform Trust.

Mae’r Athro Michael Woods yn Athro ym maes Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae’n Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, ac yn Gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). Mae’n arwain ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil ar y Gymdeithas Sifil ESRC WISERD, sy’n archwilio rôl grwpiau lleol o fewn y gymdeithas sifil o ran ysgogi polareiddio (anfwriadol) a sut y gall y gymdeithas sifil yn lleol felly, helpu i wrthsefyll polareiddio mewn cymunedau.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260