Ymunwch â ni ar gyfer Seminar Amser Cinio diweddaraf WISERD DDYDD MAWRTH 23 MEDI am 12pm, a gyflwynir gan Dr Katy Huxley (Prifysgol Caerdydd).

Pwy sydd eisiau bod yn weithiwr gofal cymdeithasol? Dadansoddiad o ddata cysylltiedig y gweithlu, byd addysg a data’r cyfrifiad.

Nod y gwaith hwn yw cynnig gwell dealltwriaeth o nodweddion a llwybrau i waith gofal cymdeithasol i ddysgwyr sydd wedi’u haddysgu yng Nghymru. Mae’r ‘argyfwng’ yn y gweithlu gofal – o ran recriwtio a chadw staff – wedi codi pryderon sylweddol i’r sector a’i ddyfodol. Gan gysylltu cofrestr gweithlu gofal cymdeithasol â data addysg gweinyddol a Chyfrifiad 2011 y DU, rwy wedi edrych ar lwybrau ar gyfer chwe charfan o bobl sy’n gadael yr ysgol (a gwblhaodd Gyfnod Allweddol 4 rhwng 2010/11 a 2015/16). Yn y sesiwn hon, rwy’n cyflwyno nodweddion demograffig, llwybrau addysgol, dosbarthiadau economaidd-gymdeithasol aelwydydd dysgwyr y gellir eu holrhain i alwedigaethau gofal cymdeithasol cofrestredig ac yn myfyrio ar oblygiadau ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol.

Rhannwch y gwahoddiad calendr hwn gydag unrhyw gydweithwyr rydych chi’n credu y bydd gennyn nhw ddiddordeb yn y seminar neu cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk os hoffech chi ledaenu’r sgwrs yn ehangach neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflwyno seminar amser cinio eich hun.