Cyflwynwyd gan Dr Richard Gater 

Mae’r seminar hon yn trafod fy ymchwil PhD a oedd yn ymchwilio i’r cyfnod pontio rhwng byd ysgol a byd gwaith yng nghyd-destun hunaniaeth wrywaidd grŵp o ddynion ifanc dosbarth gweithiol o gymoedd y De sydd ar y cyrion. Cynhaliwyd yr ymchwil ar y cyd â chanolfan ieuenctid ac roedd yn cynnwys astudiaeth ethnograffig o naw o ddynion ifanc, ynghyd â chyfweliadau â gweithwyr ieuenctid ac athro ysgol. Roedd yr ymchwil yn ymwneud â themâu gwrywdod a dosbarth cymdeithasol, ac roedd hefyd yn ystyried newidiadau cyflogaeth a ragwelir yn y dyfodol a goblygiadau posibl y newidiadau hyn ar gyfer profiadau addysgol a dyheadau cyflogaeth y sawl a gymerodd ran.

Ystyriwyd y sawl a gymerodd ran yng nghyd-destun ymchwil a wnaed ym 1977 ar gysyniad ‘yr hogiau’ gan Paul Willis. Er bod tebygrwydd i’r ‘hogiau’, roedd newidiadau nodedig hefyd ym marn ac ymddygiad y dynion ifanc, gan gynnwys agwedd bragmatig at addysg yn hytrach na gwrthwynebu dysgu, rhywfaint o wyro oddi wrth cyflogaeth â llaw, dangos gwrywdod mewn ffordd fwy meddal a chwalu’r ffyrdd blaenorol o fod sy’n deillio o wrywdod ac yn gysylltiedig â’r diwydiannau trwm. Er bod ymchwil flaenorol wedi dod o hyd i wrthwynebiad i unigoliaeth neoryddfrydol, cyflogaeth yn y sector gwasanaethau a llafur emosiynol ymhlith cenhedlaeth flaenorol o ddynion ifanc yn yr ardal (Gater 2022), arwyddocâd yr ymchwil bresennol yw bod cryn newidiadau wedi bod rhwng y cenedlaethau.

Yng ngoleuni’r newidiadau a ragwelir mewn cyflogaeth yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â rhagor o awtomeiddio a thechnolegau newydd, mae’n hollbwysig ystyried sut y gallai dynion ifanc fel y rhain ddod o hyd i gyflogaeth sy’n talu’n well ac yn defnyddio sgiliau gwell. Yn sgîl canlyniadau’r ymchwil hon, gallwn ni ystyried mathau o ddyfodol cyflogaeth sy’n wahanol i gyflogaeth â llaw ac yn defnyddio sgiliau isel. Byddai hyn hwyrach yn cynyddu cyfleoedd bywyd dynion ifanc dosbarth gweithiol sydd ar y cyrion.

Gallwch wylio fy nghyflwyniad yma – WISERD Lunchtime Seminar | The 21st Century Ladz – YouTube