Cyflwynwyd gan Catherine Foster 

Er bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr llawn amser yng Nghymru wedi haneru ers 2004, mae’n parhau i fod tua 9%, yn ôl ffigurau 2021 gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r bwlch cyflog yn amrywio rhwng y sectorau, ac mae ymchwil ar wahân yn awgrymu bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ehangu yn y sector addysg yn ei gyfanrwydd yn y DU (Thomas and Elliott, 2021) ac mewn ysgolion, yn enwedig yn achos penaethiaid (WomenED, 2021). Yn ogystal, er mai menywod yw’r rhan fwyaf o’r gweithlu addysgu, mae ymchwil yn Lloegr yn dangos bod menywod yn llai tebygol o symud ymlaen i fod yn uwch-arweinwyr (FFT Education Data Lab, 2018).

Fodd bynnag, prin yw’r ymchwil fanwl ar raddfa’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ar lefelau gwahanol o fod yn uwch-reolwr, ac a yw cyfran yr athrawon benywaidd sy’n arweinwyr yn gynrychioliadol o’r gweithlu cyfan. Mae llawer o’r gwaith presennol yn ddisgrifiadol ac mae angen gwneud rhagor o ddadansoddiadau i ddeall y ffactorau sy’n rhagweld cyflog a phwy sy’n cael rolau arwain mewn ysgolion.

Gan ddefnyddio data sy’n deillio o Gyfrifiad Blynyddol Gweithlu Ysgolion Cymru (SWAC) yn 2020, gwnaethon ni ddadansoddiad atchweliad i ymchwilio i nodweddion yr ysgol a’r nodweddion personol sy’n rhagweld cyflog a phwy fydd yn mynd yn arweinydd ysgol. Gan ddefnyddio dadansoddiad dadelfennu Blinder-Oaxaca, wedyn gwnaethon ni feintioli’r graddau y mae’r bwlch cyflog rhwng athrawon gwrywaidd a benywaidd yn cael ei egluro yn sgîl y data sydd ar gael.

Yn achos sampl 2020, dengys ein dadansoddiad fod athrawon dosbarth benywaidd yn ennill mwy nag athrawon dosbarth gwrywaidd, ond eu bod yn llai tebygol o fod mewn swyddi arwain, a phan oedd hyn yn digwydd eu bod yn cael eu talu’n llai am fod yn uwch-arweinwyr, ond nid ar lefel rheolwyr canolig. Er bod y model yn esbonio’r rhan fwyaf o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn achos athrawon dosbarth, canfu’r dadelfennu nad yw’r rhan fwyaf o’r bwlch yn cael ei esbonio yn achos uwch-arweinwyr. Yn y seminar hwn, byddaf yn trafod y canfyddiadau’n fanwl yn ogystal â’r camau nesaf ar gyfer y darn hwn o ymchwil.

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom