Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd

Fis Mawrth nesaf, byddwn yn cydnabod 40 mlynedd ers streic y glowyr mewn cynhadledd wedi’i threfnu gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD).

Bydd y gynhadledd yn dechrau gyda dangosiad o ffilm o’r enw ‘Breaking Point’, a wnaed ac a fydd yn cael ei chyflwyno gan KJell-Ake Andersson, cyfarwyddwr mawr ei barch o Sweden. Gwnaed y ffilm yn Oakdale ym mis Chwefror 1985 wrth i’r streic ddechrau cael ei dorri, ac mae’n canolbwyntio ar sut mae undod yn cael ei gynnal, barn swyddogion y gyfrinfa, a gweithgareddau’r grŵp cefnogi menywod.

Bydd dwy sesiwn lawn a chyfres o wyth cyfarfod panel. Mae’r cyfarfodydd llawn yn canolbwyntio ar ‘Menywod, lle a chymuned yn y streic a heddiw’ a ‘Y diwedd ar lo: strwythur economi wedi’i datgarboneiddio’. Bydd y trafodaethau panel yn archwilio’r streic mewn cyd-destun hanesyddol ac yn ystyried materion perchnogaeth gyhoeddus, trefniadaeth undebau llafur a strategaeth streic, adeiladu undod, rôl y wladwriaeth a’r cyfryngau mewn cysylltiadau diwydiannol, atgofion o’r streic, y newid yn strwythur dosbarth a hynodrwydd y meysydd glo.

Bydd y gynhadledd yn arddangos baneri Undeb Genedlaethol y Glowyr, ynghyd â lluniau o waith codi glo a’r streic.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys cast serol o siaradwyr o’r academi a rhai yn cymryd rhan uniongyrchol yn y mudiad undebau llafur yn 1984 ac yn y byd cyfoes.

Y gorffennol yn y presennol – Y rhaglen

Y Siaradwyr

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.