Ymunwch â ni ar gyfer y Seminar Amser Cinio WISERD diweddaraf am 12pm, ar 6 Mawrth, a gyflwynir gan Dr Bryonny Goodwin-Hawkins (CCRI). E-bostiwch wiserd.events@cardiff.ac.uk os hoffech ymuno.
Treth Gwerth Tir yn dreth leol: Beth y gellir ei ddysgu o ymchwil ac ymarfer?
Mae trethiant eiddo o bwys mawr i gyllid llywodraeth is-genedlaethol ledled y byd ac yn cael ei ystyried yn gynyddol yn ffordd o hyrwyddo datblygu lleol. Mae Treth Gwerth Tir – sy’n cael ei chodi ar werth tir heb ei wella – wedi’i hargymell ers amser maith yn ddewis amgen mwy teg ac effeithlon i drethi eiddo confensiynol megis y Dreth Gyngor ac ardrethi annomestig. Yn ddiweddar, mae sylw wedi troi at botensial Treth Gwerth Tir i fynd i’r afael ag ‘argyfwng fforddiadwyedd’ tai eang ac elwa o fuddsoddi cyhoeddus mewn tir. Fodd bynnag, er gwaethaf apêl ddamcaniaethol gref a diddordeb gwleidyddol cyson, mae rhoi Treth Gwerth Tir ar waith yn dal i fod yn anghyffredin, a dim ond hyn a hyn o dystiolaeth empirig sydd ar gael.
Mae’r seminar hon yn cyfuno canfyddiadau adolygiad o systemau treth lleol mewn sawl gwlad ac adolygiad systematig o lenyddiaeth ar Dreth Gwerth Tir. Byddaf yn asesu’r wybodaeth ddiweddaraf, yn tynnu sylw at fylchau yn y dystiolaeth bresennol ac yn ymchwilio i’r cyfaddawdau pragmatig mewn sefyllfaoedd go iawn. Drwy roi’r ddealltwriaeth hon mewn cyd-destun Cymreig, byddaf yn ystyried cyfleoedd i ddatblygu ymchwil a chynllunio polisi ym maes trethiant lleol.
Bywgraffiad: Mae Dr Bryonny Goodwin-Hawkins yn Uwch-gymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Cymunedol a Chefn Gwlad. Yn wyddonydd cymdeithasol cymhwysol sy’n arbenigo mewn polisi llywodraeth leol, mae’n cydlynu Labordai Byw yn rhan o brosiect RUSTIK Horizon Europe. Mae hefyd yn un o gymrodyr polisi UKRI ar hyn o bryd sydd ar secondiad i Lywodraeth Cymru.