Yn galw ar bob ysgol uwchradd yng Nghymru! Ymunwch â ni ddydd Llun 7 Rhagfyr (15:30–16:15) am gyflwyniad ar-lein am Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD (WMCS), a chael gwybod sut y gallai eich ysgol elwa drwy gymryd rhan.

Beth mae eich disgyblion yn ei feddwl go iawn am yr ysgol? Mae ein hastudiaeth ymchwil yn gyfle i chi gael gwybod.

Mae pob ysgol sy’n cymryd rhan yn cael adroddiad pwrpasol sy’n rhoi dadansoddiad manwl o ymatebion ei disgyblion ei hun, ynghyd â data cymharu cenedlaethol. Cewch edrych ar agweddau at ddysgu, rhesymau dros absenoldeb, lles disgyblion, ethos yr ysgol ynghyd â safbwyntiau ar faterion ehangach megis deallusrwydd artiffisial (DA) a chydraddoldeb.

Cewch weld sut mae profiadau eich disgyblion yn cymharu â phrofiadau pobl ifanc eraill ledled Cymru, canfod meysydd o gryfder a chyfleoedd i ddatblygu a chefnogi eich hunanwerthusiad a chynllunio gwelliannau.

Mae cymryd rhan yn syml. Mae’r arolwg yn cael ei chynnal rhwng hanner tymor mis Chwefror a’r Pasg. Bydd disgyblion yn treulio 20 munud yn llenwi holiadur ar-lein mewn ystafell ddosbarth o dan oruchwyliaeth. Rydyn ni’n cynnig y ddolen, y ffurflenni cydsynio optio allan i rieni a gwarcheidwad a’r holl wybodaeth a chymorth sydd ei angen arnoch chi.

I gael rhagor o wybodaeth, ymunwch â’n sesiwn ar-lein am 15.30 ddydd Llun, 7 Rhagfyr. Byddwch chi’n clywed am ein canfyddiadau diweddaraf, dod i wybod beth allai eich ysgol ei ennill drwy gymryd rhan, gofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau yn uniongyrchol i’r tîm ymchwil.

Anfonwch e-bost aton ni i gofrestru eich lle am ddim: WMCS@caerdydd.ac.uk