Cyflwynir gan Julia Rone

Bydd y cyflwyniad yn seiliedig ar lyfr Julia a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy’n trin a thrafod sut y lledaenodd protestiadau yn erbyn llymder a masnach rydd ledled yr UE yn y 2010au. Er bod galwadau i gryfhau democratiaeth a dod â llygredd i ben yn berthnasol o Sbaen a Phortiwgal i Rwmania a Bwlgaria, ychydig iawn o sylw a roddwyd i wrth-lymder economaidd mewn protestiadau yn Nwyrain Ewrop o gwbl (er bod mesurau llym ar waith yn y gwledydd hyn). Pam felly? Mae’r llyfr yn dadansoddi protestiadau yn Nwyrain a Gorllewin yr UE gyda’i gilydd er mwyn dod o hyd i’r rhesymau dros y rhaniad parhaus rhwng ymgyrchwyr Gorllewin a Dwyrain Ewrop.

Yn ail, mae’r llyfr yn dadlau bod angen i ni astudio llymder a masnach rydd yn ogystal â’r Dwyrain a’r Gorllewin. Roedd gan y ddau fath o bolisi nid yn unig yr un rhesymeg wrth-ddemocrataidd yn y rhan fwyaf o’r UE ond fe roeddent hefyd yn atgyfnerthu ei gilydd – roedd gwledydd fel Gwlad Groeg yn wynebu mesurau llymder caeth yn enwedig er mwyn eu gwneud yn fwy cystadleuol yng nghyd-destun allforio. Roedd masnach (yn yr UE a gyda gwledydd eraill, e.e. yr Unol Daleithiau a Chanada) yn cael ei ystyried fel y brif ffordd o adfer ar ôl yr argyfwng.

Yn drydydd ac yn bwysicaf oll, mae’r llyfr yn dadlau, os ydym am ddeall sut mae protestiadau yn ymledu, dylem edrych nid yn unig ar ymgyrchwyr sy’n defnyddio cyfryngau digidol – ffocws penodol yn y 2010au – dylem hefyd ystyried sut y gwnaeth llu o unigolion a sefydliadau – undebau llafur, deallusion, pleidiau gwleidyddol, cyrff anllywodraethol, ac ati, – ymdrechu i ymledu protestiadau drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau – sioeau teledu, papurau newydd, ond ogystal â llyfrau. Felly, yn hytrach na rhywbeth digymell neu awtomatig, mae ymlediad protest yn broses hynod gymhleth a gwleidyddol. Mae cael gwell dealltwriaeth o sut mae’n gweithio yn hanfodol er mwyn i ymgyrchwyr allu ymestyn a lledaenu eu syniadau a’u harferion yn fwy llwyddiannus.

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom.