Cyflwynir gan Esther Muddiman a Rhian Powell.

Mae ehangu hawliau plant yn aml yn cael ei fframio fel senario pawb ar ei ennill, gan godi lleisiau a barn dinasyddion na chlywyd yn flaenorol, a rhoi profiadau a sgiliau i blant a phobl ifanc a fydd yn eu galluogi i ymgysylltu â materion ar y cyd i fod yn oedolion. Yn y seminar hwn rydym yn tynnu ar waith David Lockwood i archwilio’n feirniadol y potensial i bwyslais cynyddol ar hawliau sy’n gysylltiedig ag oedran gyfrannu at fathau newydd o haeniad dinesig. Rydym yn canolbwyntio ar ddau faes cystadlu posibl. Yn gyntaf, rydym yn ystyried cais Caerdydd i ddod yn ‘Ddinas sy’n Gyfeillgar i Blant’ UNICEF a nodi nifer o safleoedd a gofodau yr ymleddir drosynt, gan gynnwys yr ymgyrch ‘Save Northern Meadows’, lle mae naratifau am hawliau plant a chyfiawnder rhwng cenedlaethau yn cael eu defnyddio. Yn ail, rydym yn meddwl am natur amserol ymryson plentyndod, cynnwys neu eithrio pobl ifanc yn eu harddegau, a phlismona ffiniau plentyndod ag oedolaeth mewn perthynas â syniadau am amddiffyn, lles, cymhwysedd ac asiantaeth. Rydym yn cloi trwy feddwl am y potensial i hyrwyddo a deddfu hawliau plant er mwyn cyfrannu at ailgynhyrchu cymdeithasol, aflonyddwch cymdeithasol, neu drawsnewid hyd yn oed.

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom