Credu a/neu ymberthyn? Y berthynas gymhleth rhwng teulu, crefydd a’r gymdeithas sifil
Cyflwyniad gan Sally Power, WISERD
Mae’r seminar hwn yn ymchwilio i ‘drindod’ teulu, crefydd a’r gymdeithas sifil. Rydym yn gwybod bod ymlyniad crefyddol yn gysylltiedig iawn ag ymgysylltiad sifil. Rydym hefyd yn gwybod bod ymlyniad crefyddol yn draddodiadol yn cael ei basio i lawr i aelodau’r teulu, ond mae’r gallu i wneud hyn wedi’i leihau gan seciwlariaeth gynyddol. Mae’n debyg y bydd y lleihad hwn yn arwain at oblygiadau pwysig i’r gymdeithas sifil. Gall y goblygiadau hyn fod yn fwy amlwg yng Nghymru, sydd wedi mynd o fod y wlad fwyaf crefyddol yn y DU i’r wlad leiaf crefyddol dros y 100 mlynedd ddiwethaf.
Gan ddefnyddio data arolygon a chyfweliadau o brosiect Canolfan Cymdeithas Sifil ESRC WISERD ar ‘Drosglwyddo Gwerthoedd Sifil rhwng Cenedlaethau’, mae’r seminar hwn yn trafod y cwestiynau canlynol:
· I ba raddau mae crefydd yn creu cysylltiad rhwng teuluoedd a’r gymdeithas sifil?
· Pa mor llwyddiannus – neu aflwyddiannus – oedd ein teuluoedd o ran ‘pasio i lawr’ eu ffydd i’r genhedlaeth iau?
· Pa elfen ar ymlyniad crefyddol – credu a/neu ymberthyn – sy’n meithrin ymgysylltiad sifil?
Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y wybodaeth Zoom i ymuno â’r seminar