Diweithdra ymhlith pobl ifanc, ansicrwydd a chymdeithas sifil: polisïau datganoledig a’u goblygiadau i’r ifanc ar ôl COVID-19

Cyflwynir gan Sioned Pearce

Bydd y cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar ddiweithdra ac ansicrwydd ymhlith yr ifainc ledled Gorllewin Ewrop yn sgîl yr argyfwng economaidd a achoswyd gan COVID-19. Yn y DU mae 14.5% o bobl ifanc 16-24 oed yn ddi-waith ar hyn o bryd, i fyny o 11.2% flwyddyn yn ôl (17.5% yw’r ffigur ledled yr UE). Mae Cynllun ‘Kickstart’ Llywodraeth y DU ac ymatebion polisïau datganoledig fel y Scottish Youth Guarantee yn helpu ychydig i gefnogi pobl ifanc. Fodd bynnag, mae’r rhain yn fesurau tymor byr ac adweithiol sy’n debygol o feddalu, ond ni fyddant yn osgoi cynnydd anochel mewn diweithdra yn y dyfodol a’r goblygiadau tymor hir mwy difrifol i bobl ifanc.

Gan dynnu ar naratifau polisïau datganoledig a data empirig gan sefydliadau cymdeithas sifil, mae ymatebion i’r argyfwng presennol yn cael eu hamlinellu gan ddefnyddio teipolegau polisïau ieuenctid a chyfundrefnau cyflogaeth ledled Ewrop. Mae’r fframwaith yn cael ei gymhwyso i bedair gwlad y DU – Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon – a’u cyd-destunau polisïau gwahanol. Mae’r dadansoddiad yn tynnu sylw at wahaniaethau sylweddol mewn dulliau polisïau datganoledig i’r argyfwng diweithdra ieuenctid presennol ac, i raddau llai, amrywiaeth yn nulliau cymdeithas sifil ar lawr gwlad. Mae’r canfyddiadau’n rhagarweiniol ac yn rhagflaenu gwaith maes mwy manwl fydd yn cael ei gynnal eleni, ond serch hynny maent yn datgelu patrymau diddorol o fewn a rhwng pedair gwlad y DU.

 

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom