Cyflwynwyd gan Dana Brablecova.

Yn draddodiadol, mae pob cymuned Mapuche wledig yn cael ei harwain gan lonko (pennaeth), dyn sy’n cynrychioli doethineb ac arweinyddiaeth. Yn y ddinas, ymhell o’r diriogaeth wreiddiol, mae’r Mapuche wedi adennill ac arfer eu hunaniaeth, yn bennaf, drwy waith ‘presidentas’ sefydliadol benywaidd. Ers adfer democratiaeth yn Chile ar ddechrau’r 1990au, mae’r Mapuche yn Santiago wedi creu ac ymuno â nifer cynyddol o sefydliadau gwirfoddol yn seiliedig ar eu hunaniaeth Mapuche gyffredin. Bu Presidentas yn allweddol wrth wireddu’r gweithgarwch diwylliannol Mapuche ar y cyd yn y ddinas tra’n herio’r rhagolygon a oedd yn cyfyngu ar fenywod brodorol trefol i amgylchfyd domestig, naill ai fel gweithwyr domestig (nanas) neu famau. Yn seiliedig ar waith parhaus ar y cyd â sefydliadau Mapuche trefol, mae’r cyflwyniad hwn yn archwilio llwybrau arweinyddiaeth presidentas, tra’n trafod rhai o’r heriau a achosir gan ddiaspora y Mapuche ei hun sy’n cyflyru effaith eu rôl arwain yn y pen draw.

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom.