Chloe Reid, Prifysgol Caerdydd

 
Mae’r term ‘ymgysylltu â chyflogwyr’ yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, leoliadau profiad gwaith, cystadlaethau sgiliau, gweithgareddau menter, gwirfoddoli a chyflwyniadau am yrfaoedd. Mae rhyngweithiadau ac ymgysylltiadau cyflogwyr â disgyblion uwchradd wedi bod yn destun llawer o sylw yn ddiweddar ym mholisi addysg Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer darparu addysg yrfaol sy’n briodol i’w hoedran o 3 oed o fewn y cwricwlwm newydd (Llywodraeth Cymru 2019), peilot o Feincnodau Canllawiau Gyrfaol Da Gatsby a chyflwyno cronfa ddata newydd i hwyluso cyfnewid rhwng cyflogwyr ac ysgolion.

Er gwaethaf y mentrau newydd hyn, cymharol ychydig sy’n hysbys am natur ymgysylltu â chyflogwyr yng Nghymru, na’i effaith ar ddyheadau pobl ifanc a phontio ôl-16. Ochr yn ochr â’r trafodaethau hyn, mae cwestiynau ynghylch a all ymgysylltu â chyflogwyr atgyfnerthu neu wrthbwyso anghydraddoldebau.

Er mwyn archwilio’r materion a drafodir uchod ymhellach, cynigiwyd y cwestiynau ymchwil canlynol:

1.         Beth yw natur ymgysylltu â chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru?

2.         Sut a pham mae ymgysylltu â chyflogwyr yn dylanwadu ar ddyheadau a barn pobl ifanc am eu pontio ôl-16?

3.         Sut mae dosbarth cymdeithasol yn dylanwadu ar brofiadau disgyblion o ymgysylltu â chyflogwyr?

 

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom