Cadeirydd | Yr Athro Kevin Morgan

Cylch trafod | Dr Bernd Bonfert, Gwyneth Ayers, Simon Wright, Edward Morgan

Mae pandemig parhaus COVID-19 wedi tanlinellu ‘natur hanfodol’ yr Economi Sylfaenol a thynnu sylw at gyflwr bregus sustemau dibyniaeth megis gofal iechyd neu fwyd. Yn y cyd-destun hwn, mae’r diddordeb a’r galw ynghylch dulliau lleol amgen na threfn cyflenwi ein bwyd wedi cynyddu’n gyflym ledled y deyrnas gan fod rhagor o bobl yn ymwneud â mentrau cymorth bwyd ac amaeth cymorth cymunedau neu’n canolbwyntio ar bwysigrwydd cynlluniau cyhoeddus caffael bwyd. Bwriad y panel hwn yw ystyried rhai datblygiadau o’r fath a gwahodd mentergarwyr cymdeithasol a pholisi sy’n ymwneud â rhwydweithiau bwyd Cymru i drafod sut y gall eu dulliau arbrofol fod o les i’r boblogaeth.