Cyflwynwyd gan Rhys Davies

Mae’r papur hwn yn cyflwyno tystiolaeth newydd ar dueddiadau hirdymor yn y premiwm cyflog undeb ar gyfer Prydain Fawr. Yn seiliedig ar ddata o’r Arolwg Gweithlu ar gyfer 2001 i 2021, mae dadansoddiad atchweliad yn datgelu yr amcangyfrifir mai tua 5% yw’r premiwm cyfartalog mewn cyflog sy’n gysylltiedig ag aelodaeth undeb. Gwelir y premiwm ymhlith y rhai a gyflogir yn y sectorau preifat a chyhoeddus ac ar wahân ar gyfer dynion a menywod. Mae’n gymharol gadarn i gynnwys rheolaethau ar gyfer nodweddion gweithwyr, nodweddion gweithle ac amodau marchnad lafur leol o fanylion amrywiol. Mae amcangyfrifon nad ydynt yn barametrig sy’n deillio o Baru Sgôr Tueddfryd hefyd yn cynhyrchu canlyniadau sy’n debyg o ran maint i’r rhai sy’n seiliedig ar fodelau atchweliad safonol.

Fodd bynnag, mae dadansoddiad blynyddol o bremiwm cyflog undeb yn awgrymu bod enillion cymharol aelodau undeb wedi gostwng ers 2016, i’r graddau ei fod wedi diflannu erbyn 2021. Mae dadansoddiad aml-amrywedd yn cadarnhau na ellir esbonio’r gostyngiad hwn gan newidiadau yn nodweddion swyddi a ddelir gan aelodau undeb neu ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar enillion. Mae’r gostyngiad yn arbennig o amlwg yn y sector preifat. O fewn marchnad lafur dynn a grëwyd gan Brexit a lefelau uwch o anweithgarwch economaidd ers y pandemig, mae’n ymddangos bod yr enillion uwch sy’n gysylltiedig ag aelodaeth undeb wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf.

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom