Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod WISERD wedi ymuno â Grŵp Ymchwil Bag Brown Defnyddwyr Data Arolygon Caerdydd (SURDUBB) i helpu i hyrwyddo ymchwil y rhai sy’n gweithio gydag arolygon ar raddfa fawr a data gweinyddol ym maes y gwyddorau cymdeithasol.

Mae SURDUBB yn grŵp rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr sy’n defnyddio dulliau meintiol a dulliau cymysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Unwaith y mis, bydd WISERD yn neilltuo un o’i slotiau seminar amser cinio rheolaidd (dydd Mawrth 12-1pm) i arddangos ymchwil meintiol o ystod meysydd y gwyddorau cymdeithasol.

Cynhelir ein seminar WISERD/SURDUBB cyntaf ar 31 Ionawr a bydd yn cael ei gyflwyno gan Dr Simon Massey o Brifysgol Fetropolitan Manceinion:


Mae agweddau a chredoau yn aml yn anodd eu mesur. Ni allwn ddefnyddio pren mesur neu raddfa bwyso. Rydym yn aml yn gweld ystadegau am farn pobl yn cael eu hadrodd a’u trafod yn y cyfryngau, ond anaml y gwelwn drafodaeth ar y mesuriadau a ddefnyddiwyd.

Mae Dr Simon Massey yn Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg Feintiol ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Q-Step Metropolitan Manceinion. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud â sawl prosiect yn ymwneud ag addysg mathemateg ac ystadegau yn y DU ac Ewrop. Mae hefyd yn dysgu dulliau meintiol i israddedigion ac yn cynghori sefydliadau ar draws y byd ar sut i wella eu haddysgu ystadegau i fyfyrwyr y gwyddorau cymdeithasol.

Mae ymchwil Simon yn arddangos dulliau dibynadwy a ddefnyddir mewn ymchwil gyda phlant i helpu i gynhyrchu tystiolaeth angenrheidiol o sut mae cyfalaf diwylliannol ac economaidd yn chwarae rhan sylfaenol mewn addysg gyfun ac yn enwedig mewn mathemateg, pwnc sydd o’r gwerth mwyaf pan ddaw’n fater o fynediad at addysg bellach ac uwch, heb sôn am amrywiaeth eang o ddewisiadau gyrfa.
Mae ymchwil Simon yn dadlau bod agweddau plant at fathemateg yn cael eu pennu ar eu cyfer nhw, nid ganddyn nhw a bod yn rhaid i hyn newid os ydym am ddisgwyl i weithlu’r dyfodol fod yn hyddysg yn y sectorau y mae galw dirfawr amdanynt sydd angen sgiliau digidol a data.

Bydd y cyflwyniad yn cyflwyno technegau a ysbrydolwyd gan wyddorau cymdeithasol traddodiadol i helpu:
• Mesur agweddau plant yn ddibynadwy ac yn ddilys
• Moderneiddio’r defnydd o dechnegau meintiol traddodiadol
• Cynhyrchu haenau o dystiolaeth i ddangos sut y gellir dibynnu ar ymatebwyr ifanc i gasglu data hunangwblhau
Mae’r cyflwyniad hwn wedi’i anelu at bob myfyriwr yn y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys Cymdeithaseg, Addysg a Seicoleg.

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom