Sesiwn 1 – Dydd Mercher 6 Hydref

Sesiwn  2 – Dydd Mercher 13 Hydref

 

Arweinir y digwyddiad hyfforddi ar-lein hwn dros ddau hanner diwrnod gan Dr Diarmuid McDonnell [Prifysgol Gorllewin yr Alban]. Mae wedi’i anelu at ymchwilwyr a dadansoddwyr o unrhyw ddisgyblaeth sydd â diddordeb mewn dadansoddi rhwydweithiau at ddibenion ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.

Erbyn hyn, mae llawer iawn iawn o’n rhyngweithio cymdeithasol yn digwydd ar-lein, a gall gwybodaeth am ein hymddygiad personol ar-lein gael ei chipio’n ddigidol. Felly, mae dulliau cyfrifiadurol o gasglu, glanhau a dadansoddi data’n elfen fwyfwy pwysig o becyn cymorth gwyddonydd cymdeithasol. Mae Dadansoddi Rhwydwaith Cymdeithasol yn cynnig ffordd fethodolegol a defnyddiol o ddatgelu a deall strwythurau cymdeithasol, cysylltiadau a rhwydweithiau cydgysylltu.

Mae’r gyfres hyfforddi hon yn cyflwyno’r rhai sy’n cymryd rhan i gysyniadau craidd, strwythurau data a dulliau o ddadansoddi rhwydwaith cymdeithasol. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, arddangosiadau codio, gweithgareddau ymarferol a thrafodaethau grŵp. Mae’r hyfforddiant yn addas i unigolion sy’n newydd i ddadansoddi rhwydwaith cymdeithasol ac sydd am feithrin dealltwriaeth dda o hanfodion y fethodoleg hon.

Erbyn diwedd y ddwy sesiwn, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu:
•    deall cysyniadau a thermau sylfaenol sy’n gysylltiedig â dadansoddi rhwydwaith cymdeithasol, casglu, glanhau ac ail-lunio data rhwydwaith cymdeithasol
•    dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol drwy ddefnyddio amrywiaeth o ystadegau cryno
•    defnyddio Python i ddadansoddi rhwydwaith cymdeithasol

Mae angen i’r rhai sy’n cymryd rhan allu defnyddio cyfrifiadur â chysylltiad â’r rhyngrwyd. Nid oes angen meddalwedd arbenigol.
Cynhelir y cwrs hwn dros Zoom.