Mae’r gweithdy wedi’i ddylunio i fyfyrwyr PhD ac ECRs sy’n gweithio gyda ffynonellau data cymysg, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n ystyried cymysgu ffynonellau data.
• Nod y gweithdy yw darparu sylfaen drylwyr i’r rhai sy’n bwriadu defnyddio ffynonellau data cymysg yn eu hymchwil.
• Ei nod yw tynnu sylw at y dadleuon damcaniaethol sy’n sail i’r defnydd o wahanol ddulliau methodolegol.
• Mae’n archwilio goblygiadau ymarferol defnyddio dulliau cymysg o gasglu data hyd at ddadansoddiadau, cyflwyniad a chyhoeddiadau.
• Bydd yn trafod y paradeimau sy’n sail i MMR, yn amlinellu rhai o’r egwyddorion i’w hystyried – dylunio ymchwil, triongli, dadansoddi – a chynnig y cyfle i ddefnyddio cymysgedd o ddata i edrych ar fanteision a chyfyngiadau MMR.
Ar ddiwedd y gweithdy, dylai’r cyfranogwyr fod yn fwy hyderus wrth ymgysylltu ag ymchwil dulliau cymysg.