Cyflwynwyd gan Nia Jones a Samantha Collins, Llywodraeth Cymru
Bydd y digwyddiad hyfforddiant hwn yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am MALlC 2019; beth yw MALlC, datblygiadau data yn 2019, canlyniadau, defnydd o MALlC a chynhyrchion rydym wedi’u cyhoeddi.
Bydd y sesiwn yn cynnwys y canlynol:
- gwybodaeth gyffredinol am MALlC
- gwybodaeth am bethau i’w gwneud a’u hosgoi wrth ddadansoddi a dehongli data MALlC
- gwybodaeth am yr amrywiaeth o gynhyrchion data MALlC a’r adnoddau sydd ar gael
- Enghreifftiau o MALlC yn cael ei ddefnyddio ym mhob rhan o’r Llywodraeth, y byd academaidd, y trydydd sector ac ymchwil y gwyddorau cymdeithasol
- Cyfle i ofyn cwestiynau a chael atebion i drafod sut gellir defnyddio MALlC mewn meysydd ymchwil penodol, a’r posibilrwydd ehangach o ddefnyddio MALlC ar y cyd â chyfres ddata eilaidd arall
Dilynwch y ddolen hon i gofrestru.