Cyflwynwyd gan Nia Jones a Samantha Collins, Llywodraeth Cymru

 

Bydd y digwyddiad hyfforddiant hwn yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am MALlC 2019; beth yw MALlC, datblygiadau data yn 2019, canlyniadau, defnydd o MALlC a chynhyrchion rydym wedi’u cyhoeddi.

 

Bydd y sesiwn yn cynnwys y canlynol:

  • gwybodaeth gyffredinol am MALlC
  • gwybodaeth am bethau i’w gwneud a’u hosgoi wrth ddadansoddi a dehongli data MALlC
  • gwybodaeth am yr amrywiaeth o gynhyrchion data MALlC a’r adnoddau sydd ar gael
  • Enghreifftiau o MALlC yn cael ei ddefnyddio ym mhob rhan o’r Llywodraeth, y byd academaidd, y trydydd sector ac ymchwil y gwyddorau cymdeithasol
  • Cyfle i ofyn cwestiynau a chael atebion i drafod sut gellir defnyddio MALlC mewn meysydd ymchwil penodol, a’r posibilrwydd ehangach o ddefnyddio MALlC ar y cyd â chyfres ddata eilaidd arall

Dilynwch y ddolen hon i gofrestru.