Trefnwyd gan y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD

Mae polisi gwledig yng Nghymru yn wynebu ei ddiwygiadau mwyaf arwyddocaol mewn degawdau wrth i Lywodraeth Cymru ystyried opsiynau ar gyfer polisi a chyllid datblygu gwledig ar ôl i Brydain dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae gwyro oddi wrth y Polisi Amaethyddol Cyffredin ac o bolisïau datblygu a chydlyniant rhanbarthol Ewropeaidd yn cyflwyno bygythiadau a chyfleoedd, ond mae ofnau y gallai pwysau gwleidyddol arwain at wasgu cefnogaeth i ddatblygu gwledig a chymunedau gwledig a cholli cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd. Yn benodol, bu pryderon nad yw lleisiau cymunedau gwledig yn cael eu clywed yn ddigonol mewn dadleuon polisi, gyda symudiadau diweddar i ffurfio rhwydwaith gwledig i gryfhau cynrychiolaeth cymdeithas sifil wledig yng Nghymru. Nod y digwyddiad hwn yw archwilio sut y gall ymchwilwyr sy’n astudio cefn gwlad Cymru gyfrannu at y broses hon trwy weithio gyda grwpiau cymdeithas sifil i nodi problemau, datblygu ymatebion a darparu tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau. Gan ddefnyddio fformat ‘caffi byd’ gyda chyfranogwyr yn gallu ymuno â chyfres o drafodaethau grŵp bach ar wahanol bynciau, bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at ymchwil a thystiolaeth bresennol ac yn dod ag ymchwilwyr a grwpiau cymdeithas sifil ynghyd i weithio ar syniadau ymchwil newydd. Bydd y trafodaethau grŵp bach yn ymdrin â themâu: (1) Cymunedau gwledig, diwylliant ac iaith; (2) Gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith; (3) Economi a chyflogaeth; (4) Newid poblogaethau gwledig; (5) Yr amgylchedd a defnydd tir.

 

Rhaglen

9.30 Lluniaeth ar ôl cyrraedd
10.00 Croeso
10.05 Y Cyd-destun Polisi – Matthew Quinn, Prifysgol Caerdydd
10.20 Y Rhwydwaith Wledig – Liz Bickerton
10.35 Trosolwg o Ymchwil Wledig yng Nghymru – Michael Woods, Prifysgol Aberystwyth
10.50 Siaradwr Gwadd: Dysgu o Ymgysylltu ag Ymchwilydd-Cymdeithas Sifil yn Rhwydwaith Gwledig Iwerddon. Dr Maura Farrell, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway
11.30 Egwyl
12.00 Sesiwn Caffi’r Byd 1: Trafodaethau grŵp bach ynghylch themâu (trafodaethau 2 x 30 munud)
1.00 Cinio
1.45 Sesiwn Caffi Word 2: Trafodaethau grŵp bach ynghylch themâu (trafodaethau 3 x 30 munud)
3.15 Adroddwch Yn Ôl a’r Camau Nesaf
4.00 Gorffen