Cyflwynir gan Sioned Pearce (Cardiff University):

Cafodd y gostyngiad cyson mewn diweithdra ieuenctid ers dirwasgiad economaidd byd-eang 2008/9 ei wrthdroi’n sylweddol ar draws Gorllewin Ewrop yn ystod pandemig Covid-19 gyda chyfyngiadau symud yn effeithio ar y sectorau sydd fwyaf tebygol o gyflogi pobl ifanc 18-24 oed. Er bod cyfraddau cyflogaeth ieuenctid bellach yn gostwng, mae ymchwil yn dangos bod unrhyw gyfnod o ddiweithdra yn cael effeithiau negyddol hirdymor ar lesiant, ar iechyd ac ar foddhad pobl ifanc mewn swyddi yn y dyfodol, gan gynyddu eu siawns o fod yn ddi-waith mewn blynyddoedd diweddarach ac effeithio ar enillion yn y dyfodol (Bell a Blanchflower, 2011; 2021). Ar ben hyn, mae ansicrwydd gwaith ymysg pobl ifanc wedi bod yn cynyddu’n raddol yn ei holl ffurfiau, wrth i ragor o bobl ifanc weithio contractau dim oriau, yn yr economi platfformau, yn rhan amser, dros dro neu’n achlysurol heb unrhyw obaith o gamu ymlaen. Mae’r duedd hon yn rhan o symudiad ledled Ewrop at drefn hyblyg ond sicr, ysgogi a gwaith yn gyntaf wrth i ddewisiadau polisi neo-ryddfrydol byd-eang erydu hawliau a lles gweithwyr, ac wrth i lywodraethau ganolbwyntio ar godi ffigurau cyflogaeth.

Yn y DU, mae gogwydd polisi ‘gwaith yn gyntaf’ sy’n deillio o San Steffan yn arwain at fwy o amodoldeb ar dderbyn budd-daliadau, defnydd cynyddol o sancsiynau a’r ymdrech i gael pobl (ifanc) i waith (ac oddi ar fudd-daliadau) waeth beth fo ansawdd eu swydd, eu cyflog na’u llesiant meddyliol a chorfforol, gan esbonio’n rhannol y cynnydd sylweddol mewn tlodi mewn gwaith. Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban, dan arweiniad Llafur Cymru a Phlaid Genedlaethol yr Alban yn y drefn honno, wedi bod yn gwthio’n ôl yn erbyn ‘gwaith yn gyntaf’ yn y meysydd datganoledig (addysg, sgiliau a hyfforddiant) a heb eu datganoli (lles a gwaith) ers y diwygiadau lles yn 2010/12.

Yn erbyn y cefndir hwn, mae’r prosiect yn archwilio ac yn cyflwyno gwahaniaethau datganoledig mewn dulliau polisi cymdeithasol rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban ac effaith y gwahaniaethau hyn ar rwydweithiau cymorth i bobl ifanc, yn enwedig cymdeithas sifil, yn y cyd-destun ehangach hwn.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.