Cyflwynwyd gan Foteini Tseliou

Gall cael eu gwahardd o’r ysgol gael effaith negyddol ar fywydau plant, gyda thystiolaeth berthnasol yn amlygu’r angen i nodi sut y gall gwahaniaethau o ran y disgybl yn benodol, neu’r ysgol a’r ardal lywio arferion gwahardd a deilliannau addysg ar draws disgyblion Cymru. Er bod ymchwil wedi’i chynnal i’r cyswllt rhwng gwaharddiadau o’r ysgol a chanlyniadau negyddol, nid oes cymaint o wybodaeth ar gael am y llwybrau tymor hir a chanolig sy’n arwain at waharddiadau. Nod y prosiect hwn oedd ymchwilio i’r ffactorau allweddol sy’n gysylltiedig â gwaharddiadau o’r ysgol dros amser, gan ystyried disgyblion sydd wedi’u gwahardd ac achosion o wahardd mewn ysgolion.

Cafodd y dadansoddiadau hyn eu gwneud fel rhan o’r prosiect ‘Excluded Lives’, gwaith amlddisgyblaethol cydweithredol ar draws nifer o brifysgolion y DU sy’n bwriadu archwilio gwaharddiadau o ysgolion gan ddefnyddio dulliau ansoddol, meintiol ac sy’n seiliedig ar bolisïau.

E-bost wiserd.events@cardiff.ac.uk ar gyfer y ddolen Zoom.