Bydd ein canolfan cymdeithas sifil newydd a ariennir gan ESRC yn datblygu ac yn ymestyn yr ymchwil berthnasol i bolisi o’n rhaglen cymdeithas sifil flaenorol.
Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn cynnal rhaglen newydd uchelgeisiol i drawsnewid ein dealltwriaeth o sut mae ffurfiau o allgáu ac ehangu dinesig, a cholledion ac enillion dinesig, yn effeithio ar gymdeithas ddinesig a’r potensial i sefydliadau cymdeithas sifil chwarae rôl allweddol ym maes atgyweirio sifil.
Mae’r rhaglen yn cynnwys nifer o becynnau gwaith rhyng-gysylltiedig sy’n rhan o bedair thema allweddol:
- Ffiniau eithrio ac ehangu dinesig
- Polareiddio, llymder a diffyg dinesig
- Gwleidyddiaeth ddadleuol enillion dinesig
- Adnoddau perthnasol, arloesedd cymdeithasol ac atgyweirio sifil
Bydd thema drawstoriadol ar wahan yn mynd i’r afael a seilwaith data ac integreiddio data.
Drwy gynhyrchu tystiolaeth empirig newydd a dadansoddiadau, bydd y rhaglen yn mynd i’r afael â nifer o’r prif heriau sy’n wynebu cymdeithas, fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, polareiddio ac ymddieithrio gwleidyddol, mudo ac amlddiwylliannaeth, deinameg newidiol gwaith a’r economi ‘gig’, ac effaith arloesiadau technolegol newydd. Mae hon yn rhaglen ymchwil amlddisgyblaeth a fydd yn adeiladu at arbenigedd ac arloesedd WISERD, gan gynnwys cyd-ymchwilwyr o blith prifysgolion y DU ac yn Ewrop, gyda chydweithredwyr rhyngwladol yn Awstralia, Tsieina, India ac UDA. Byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos â’n cydweithwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat, polisi a’r trydydd sector.
Darllenwch ein llyfryn canolfan Cymdeithas Sifil