Newyddion

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yn cael sylw yn The Guardian

“Gweithio gartref? Mae’n gymaint mwy braf os ydych chi’n ddyn”. Dyma ddywed Emma Beddington mewn erthygl ar gyfer The Guardian, sy’n sôn bod “60% o ddynion wedi cael ystafell bwrpasol er mwyn gweithio gartref o gymharu â 40% o fenywod“, yn ôl y canfyddiadau diweddaraf o Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024. (The Guardian, 01/06/25)

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yn ymddangos yn Financial Times

“Mae gweithwyr proffesiynol yn colli rheolaeth o’u gwaith,” meddai Sarah O’Connor mewn colofn i’r Financial Times, sy’n archwilio canfyddiadau’r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth dan arweiniad yr Athro Alan Felstead o Brifysgol Caerdydd. (Financial Times, 27/05/25)

Gweithio gartref: Byrddau ystafelloedd bwyta ymhlith y lleoedd sydd hefyd yn ddesgiau swyddfa i hanner y gweithwyr

Mae hanner y bobl sy’n gweithio gartref yn gwneud hynny yn y gegin, ar fwrdd bwyta neu yng nghornel ystafell a ddefnyddir at ddibenion eraill. Dyma un o’r canlyniadau a ddaeth i’r amlwg yn Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024, yr astudiaeth academaidd fwyaf hirsefydlog a manwl o brofiadau gweithwyr y DU. Ffrwyth gwaith academyddion o…