Newyddion

Gwell werthuso a chyllido i gynorthwyo ymdrechion i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol

Fe fyddai ymdrechion i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol ymysg plant a phobl ifanc yn elwa o wella’r ffordd y mae prosiectau yn cael eu gwerthuso, ac o gyllid digonol. Dyna rai o gasgliadau allweddol ymchwil i weithgareddau hyrwyddo iaith yn y gwledydd Celtaidd. Fe gynhaliodd academyddion o brifysgolion Aberystwyth a Chaeredin ymchwil ar weithgareddau mudiadau yn…