Mae Dr Amy Sanders o Brifysgol Aberystwyth wedi creu cyfres fideo o fân gyflwyniadau, wedi’u hanelu at ymarferwyr sy’n rhannu ei hymchwil, ynglŷn â’r berthynas rhwng y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru yn yr amser mae’n gymryd i gael paned o de.
Bu cefndir Amy yn y trydydd sector yn bwysig iddi yn ystod ei hymchwil ac mae hi’n ystyried sut mae ei hymchwil yn effeithio ar y trydydd sector a’r bobl sy’n gweithio ynddo. Fodd bynnag, roedd yn ymwybodol bod angen iddi rannu canfyddiadau ei hymchwil mewn ffordd a oedd yn gweddu i weithwyr proffesiynol elît, prysur sy’n gweithio yn y maes.
Lansiwyd Mug of Research gan Amy i fod yn ffordd hygyrch o rannu ei hymchwil ar gyfer unrhyw weithredwyr polisi sydd â diddordeb yn y trydydd sector neu gydraddoldeb. Meddai Amy “Roeddwn i eisiau gwneud ymchwil yn hawdd i’w ddefnyddio ar gyfer fy nghyfranogwyr, felly fe ddatblygais Mug of Research. Roedden nhw’n ei hoffi. Felly, nawr dwi’n ei wneud yn gyhoeddus”.
Rhyddhawyd y fideos bob dydd yn ystod yr wythnos rhwng 1 Tachwedd a 10 Tachwedd ar safle Twitter Amy @AmySandersA1. Mae’r trydariadau i’w gweld trwy #MugOfResearch.
Ceir rhagor o wybodaeth am Mug of Research yn yr erthygl WCVA hon.