Mae YDG Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr glodfawr y Gwasanaeth Sifil


People networking at ADR UK Conference 2025

Mae tîm YDG Cymru o fewn Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr y Gwasanaeth Sifil, un o’r anrhydeddau mwyaf uchel eu parch sy’n cydnabod rhagoriaeth ar draws Gwasanaeth Sifil y DU.

Mae Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil yn dathlu cyflawniadau rhagorol ar draws y llywodraeth, gan arddangos unigolion ysbrydoledig a phrosiectau arloesol sy’n darparu manteision gwirioneddol i ddinasyddion.

Mae YDG Cymru wedi cael ei gydnabod ochr yn ochr â dau enwebai arall yng nghategori Gwobr Cydweithio, sy’n dathlu gwaith partneriaeth eithriadol ar draws adrannau a chyda sefydliadau allanol, gan gynnwys y byd academaidd, menter, elusennau a phartneriaid rhyngwladol. Mae’r Wobr Cydweithio yn cydnabod prosiectau a thimau sy’n amlygu Gwerthoedd y Gwasanaeth Sifil sef gonestrwydd, uniondeb, didueddrwydd a gwrthrychedd, ac sy’n dangos manteision mesuradwy, effaith wirioneddol ac ysbryd gwasanaeth cyhoeddus.

Mae’r tîm wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith ochr yn ochr â pherchnogion data a dadansoddwyr, sef galluogi a hyrwyddo mynediad diogel at setiau data cyfoethog, yn amrywio o gofnodion meddygon teulu a chanlyniadau ysgolion i gyfraniadau treth. Mae gwaith tîm YDG Cymru wedi caniatáu i ymchwilwyr gynhyrchu tystiolaeth sy’n llywio polisi’n uniongyrchol, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac yn darparu gwerth am arian. Mae dadansoddiad arloesol y tîm wedi llywio ymyriadau polisi mewn meysydd hollbwysig fel triniaeth camddefnyddio sylweddau, cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion, atal digartrefedd, a rhaglenni ymddygiad troseddwyr.

Wrth siarad am yr enwebiad, dywedodd Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru a Llysgennad YDG Cymru: “Mae’r cydweithrediad hwn yn fodel rhagorol o sut y gall y byd academaidd a’r gwasanaeth sifil uno i sbarduno newid ystyrlon. Drwy gyfuno ymchwil drylwyr â heriau polisi yn y byd go iawn, nid yn unig rydym wedi gwella galluoedd technegol ar draws y ddau sector, ond hefyd wedi cyflwyno tystiolaeth gadarn sy’n llywio gwell gwneud penderfyniadau. Yn y pen draw, mae’r bartneriaeth hon wedi helpu i wella bywydau ledled Cymru ac yn arddangos potensial trawsnewidiol gweithio gyda’n gilydd.”

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil wedi dod yn gonglfaen i ragoriaeth y sector cyhoeddus, gan rannu arloesedd, arweinyddiaeth ac arfer gorau ar draws y llywodraeth. Denodd cystadleuaeth eleni dros 2,500 o enwebiadau ar draws deg categori gwobrau.

 

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Gwasanaeth Sifil 2025 mewn seremoni yn Nhŷ Lancaster ym mis Rhagfyr 2025.

 

Ymddangosodd yr erthygl newyddion hon yn wreiddiol ar wefan ADR Cymru.


Rhannu