Adroddiad COVID-19 gan yr Economi Sylfaenol Gyfunol


 

Mae’r tîm o ymchwilwyr sy’n arwain gwaith economi sylfaenol WISERD wedi cyfrannu at adroddiad COVID-19, sy’n cyflwyno achos ar gyfer adnewyddu’r economi sylfaenol ar ôl i’r argyfwng o ran iechyd y cyhoedd ddod i ben. Mae’r argyfwng yn dangos pwysigrwydd yr economi sylfaenol, sef y rhan honno o’r economi sy’n cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau hanfodol a ddefnyddir gan bawb (ni waeth beth fo’u hincwm neu eu statws). Mae’r nwyddau a’r gwasanaethau hyn yn cefnogi bywyd bob dydd ac felly ni ellir eu dadosod.

Ysgrifennwyd ‘What Comes after the Pandemic?’ gan yr Economi Sylfaenol Gyfunol, sef grŵp rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr academaidd ledled Ewrop. Trwy gydweithio i ddatblygu ffordd newydd o feddwl sy’n herio prif syniadau am yr hyn ddylai polisi economaidd fod, mae eu pwyslais ar yr economi sylfaenol yn cynnwys iechyd, gofal, addysg, tai, cyfleustodau a chyflenwad bwyd. Mae’r nwyddau a’r gwasanaethau sylfaenol hyn yn ysgogi lles ac yn sylfaen i ddinasyddiaeth.

What Comes after the Pandemic - report front cover

Mae’r adroddiad newydd yn rhoi manylion am blatfform o ddeg pwynt ar gyfer adnewyddu’r sylfaen. Dyma grynodeb o’r deg pwynt y gall gwleidyddion, grwpiau diddordeb ac ymgyrchwyr yn y gymdeithas sifil fynd ar eu hôl:

  1. Dechrau ehangu’r cyfrifoldeb torfol ar gyfer yr hanfodion sylfaenol gydag iechyd a gofal
  2. Ar ôl iechyd, tai ac ynni yw’r blaenoriaethau sylfaenol dybryd eraill
  3. Mae bwyd at ei gilydd yn fwy cymhleth ond mae angen mynd i’r afael ag ef
  4. Cyflwyno trwyddedu cymdeithasol h.y. rheoleiddio sy’n gosod rhwymedigaethau cymdeithasol ac economaidd ar holl ddarparwyr corfforaethol gwasanaethau sylfaenol
  5. Diwygio trethi ar incwm, gwariant a chyfoeth i gynyddu gallu’r llywodraeth i greu elw
  6. Datganoli buddsoddiad o gronfeydd pensiwn a chwmnïau yswiriant fel ei fod yn mynd yn uniongyrchol i ddarparu isadeiledd pwysig
  7. Cwtogi cadwyni cyflenwi hir a bregus mewn nwyddau sylfaenol wrth gydnabod oferedd awtocratiaeth leol
  8. Dylai pob dinas, tref ac ardal wledig ymylol ddatblygu cynllun trawsnewid bywyd/gwaith o fewn fframweithiau galluogi gwladwriaethau a’r UE
  9. Ailadeiladu gallu technegol a gwleidyddol ar bob lefel yn y llywodraeth
  10. Yn olaf, mae angen i wledydd Ewropeaidd dderbyn rhyw fath o gyfrifoldeb ar gyfer systemau sylfaenol cwbl annigonol megis gofal iechyd mewn ardaloedd cyfagos

 

Mae’r adroddiad yn datgan: “Rhaid i gynigion y platfform ar gyfer darpariaeth sylfaenol well ymateb i argyfwng Covid-19 yn ogystal â’r argyfwng natur a hinsawdd ac i fethiant cydlyniant cymdeithasol.”

Meddai’r Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD ac aelod o’r Economi Sylfaenol Gyfunol: “Pryderon argyfwng Covid-19 ar hyn o bryd yw diogelu bywydau a diogelwch cymdeithasol ac economaidd dinasyddion. Ond mae hefyd yn amlwg bod yr argyfwng wedi datgelu’r gwendidau strwythurol yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r polisïau llymder mewn ymateb i argyfwng economaidd 2008.

“Mae’r adroddiad hwn gan yr Economi Sylfaenol Gyfunol yn edrych tuag at ddyfodol y tu hwnt i’r argyfwng presennol i gynnig ffyrdd o adnewyddu’r meysydd hynny o fywyd cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n ffurfio sylfeini’r economi sylfaenol.”

Economi sylfaenol, dinasyddiaeth a ffurfiau newydd o berchenogaeth gyffredin
Mae’r prosiect ymchwil hwn, sy’n rhan o ganolfan ESRC newydd WISERD, Cymdeithas Sifil: Haeniad Dinesig at Atgyweirio Sifil, yn edrych ar atebion sy’n seiliedig ar le gan arbrofi â mecanweithiau cymdeithasol a ffurfiau sefydliadau newydd sy’n rhoi’r sail berthnasol i ddinasyddiaeth. Mae’n edrych ar sut y gall dulliau’r economi sylfaenol hyrwyddo enillion dinesig gan fynd i’r afael â phryderon polisi cymdeithasol ac economaidd cyfoes yn lleol ac yn rhanbarthol gan ganolbwyntio ar fwyd, gofal, tai a’r amgylchedd.


Rhannu