Alan Felstead yn rhoi tystiolaeth i’r Senedd


Screenshot of Alan Felstead on Senedd TV

Ar 11 Gorffennaf 2022, rhoddodd yr Athro Alan Felstead dystiolaeth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am ddeddfwriaeth sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd. Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi partneriaethau cymdeithasol wrth wraidd dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran sut y mae hi, a chyrff cyhoeddus y mae’n eu cefnogi, yn hyrwyddo llesiant ei dinasyddion. Mae’r dull hwn yn dilyn argymhellion a gyflwynodd y Comisiwn Gwaith Teg yn 2019.  Gellir gwylio’r Athro Felstead yn rhoi ei dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor ar Senedd TV (yn dechrau am 03:00:51 i 04:04:04) ac mae ei dystiolaeth ysgrifenedig ar gael hefyd.


Rhannu