Alan Felstead yn cael ei gyfweld ar newyddion y BBC am yr ‘hawl i ddatgysylltu’


Person shutting laptop

Mae llywodraeth newydd y DU wedi addo gweithredu i atal cartrefi rhag ‘troi’n swyddfeydd 24/7’. Mae’r risg o fod ar-lein drwy’r amser wedi cynyddu ers y pandemig gyda’r ffiniau rhwng gwaith a bywyd yn y cartref yn aneglur i lawer mwy o bobl sy’n gweithio. Mae tua chwarter y gweithwyr, er enghraifft, bellach yn dweud eu bod yn gweithio rhywfaint o’r amser gartref a rhywfaint o’r amser yn y swyddfa.

Mae’r llywodraeth bellach yn ystyried sut orau i ganiatáu i weithwyr ail-lunio’r ffiniau hyn. Cafodd Cyd-gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Alan Felstead, ei gyfweld yn fyw ar newyddion y BBC ddydd Llun 19 Awst 2024 ynghylch cyd-destun y polisi arfaethedig o roi’r hawl i weithwyr ddatgysylltu neu ‘ddiffodd/ymlacio’. Yn y cyfweliad, defnyddiodd yr Athro Felstead ei waith ymchwil ar weithio o bell. Mae’r polisi arfaethedig wedi denu sylwebaeth eang yn y wasg genedlaethol gydag adroddiadau yn The Times, The Financial Times a’r Daily Telegraph yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Un o’r problemau sy’n ymwneud â’r polisi arfaethedig yw nad oes diffiniad manwl gywir o’r hyn y mae datgysylltu yn ei olygu’n ymarferol mewn gwirionedd. Gallai olygu peidio â disgwyl atebion i ebyst neu alwadau ffôn a wneir ar ôl amser penodol neu yn ystod gwyliau. Neu fe allai olygu peidio â threfnu cyfarfodydd y tu allan i oriau craidd – gallai hyn fod o fudd i rieni plant ifanc yn benodol.

At hynny, nid yw’n glir ar ba ffurf y gallai’r ‘hawl i ddatgysylltu’ fod. Fodd bynnag, ceir awgrymiadau cryf mai cadw at fframwaith cyffredinol yn unig y bydd yn rhaid i gyflogwyr ei wneud er mwyn cydymffurfio. Byddai hyn yn rhoi rhwydd hynt i gyflogwyr o ran sut y caiff yr hawl ei rhoi ar waith yn ymarferol ac i bwy y mae’n berthnasol.

Fel cod ymarfer, mae’r cosbau am beidio â chydymffurfio yn debygol o fod yn gymharol wan a dim ond os bydd rhywun yn mynd â’r cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth y byddent yn dod i rym. Gallai cwmpas yr hawl fod yn gyfyngedig hefyd. Er enghraifft, mae dull Gwlad Belg, y mae’r llywodraeth newydd am ei ddilyn, yn eithrio cwmnïau bach a’r rhai sy’n gweithredu mewn rhai sectorau, megis hedfan a meddygaeth.

Mae cyrff cyflogwyr, megis Sefydliad y Cyfarwyddwyr, wedi mynegi pryderon y byddai’r ‘hawl i ddatgysylltu’ yn rhoi baich arall ar fusnesau. Fodd bynnag, yn ôl pob golwg o sylwebaeth ddiweddar, mae’r llywodraeth Lafur yn awyddus i osgoi dull cryno, addas i bawb. Yn lle hynny, mae’n dilyn dull gweithredu y gellir ei newid i amgylchiadau busnes, wrth hefyd amddiffyn gweithwyr rhag bod ‘ar-lein dryw’r amser’.

Wrth gyflwyno’r ‘hawl i ddatgysylltu’, gellir adfer rhai o’r ffiniau rhwng gwaith a bywyd yn y cartref a gollwyd a chaniatáu i weithwyr ymlacio’n haws ar ôl gorffen gweithio. Yn ei dro, byddai hyn hefyd yn helpu i gadw’r agweddau cadarnhaol ar weithio hybrid i gyflogwyr, sef yr hwb i gynhyrchiant a ddaw yn ei sgil yn aml. Efallai y bydd ganddo hyd yn oed y potensial i wella cynhyrchiant ymhellach, gyda gwelliannau posibl i les gweithwyr, trwy alluogi gweithwyr i ail-lunio rhai o’r ffiniau rhwng gwaith a bywyd yn y cartref.

 

Image credit: cherdchai chawienghong via iStock.


Rhannu