Athro WISERD yn ymuno â Bwrdd Golygyddol Cyfnodolyn Addysg i Oedolion India


Mae’r Athro W. John Morgan, Athro Anrhydeddus a Chymrawd Emeritws Leverhulme ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymuno â Bwrdd Golygyddol newydd yr Indian Journal of Adult Education. Sefydlwyd y cyfnodolyn ym 1939 gan Gymdeithas Addysg i Oedolion India.

Mae’r Indian Journal of Adult Education yn gyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid sy’n cyhoeddi papurau ymchwil, erthyglau ar addysg, datblygu cymunedol, astudiaethau poblogaeth a datblygu, adolygiadau llyfrau, ac weithiau cyfweliadau sy’n ymwneud ag India a De Asia.


Rhannu