Papur newydd gan yr Athro W John Morgan, Athro Anrhydeddus, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a Chymrawd Emeritws Leverhulme, WISERD, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ystyried bywyd a gyrfa’r addysgwr oedolion, gwas sifil a diplomydd diwylliannol amlwg yng Nghymru, Syr Ben Bowen Thomas (1899-1977). Bu’r Athro Morgan yn Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig, 2010-2013.
“Heb os, Ben Bowen Thomas oedd un o’r ffigurau cyhoeddus mwyaf dylanwadol yng Nghymru’r ugeinfed ganrif. Ac yntau’n addysgwr blaenllaw i oedolion ac yn ddiweddarach yn was sifil, cafodd effaith ddofn ar bolisi addysg gan gydnabod ei bwysigrwydd sylfaenol i hunaniaeth genedlaethol Gymreig yn y Deyrnas Unedig. Unwaith eto, roedd amlygrwydd Thomas fel diplomydd diwylliannol i UNESCO yn ei alluogi i gyfrannu at gydweithrediad a datblygiad deallusol byd-eang. Yn y ddau gylch, tynnodd ar draddodiadau Cymreig o ymrwymiad cymdeithasol Cristnogol a rhyngwladoldeb delfrydgar y lluniwyd ef ganddynt. Gwnaeth hynny fel uwch aelod o sefydliad llywodraethu Prydain. Mae angen nodi a gwerthfawrogi hyn, yn enwedig pan gaiff Ben Bowen Thomas ei gymharu â’r rhai sy’n fwy adnabyddus ond a oedd yn llai sylweddol yn eu cyfraniad at gymdeithas Cymru.” – Yr Athro W. John Morgan
Cyhoeddwyd y papur yn y Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, Cyfrol 28, 2022. Cymdeithas Anrhydeddus y Cymrodorion yw cymdeithas ysgolheigaidd a dysgedig hynaf Cymru, a sefydlwyd ym 1751.