Galwad am Bapurau: Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru: Symposiwm Ymchwilydd Gyrfa Cynnar ac Ôl-raddedig


Mae Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru yn falch o gyhoeddi symposiwm undydd ar gyfer ôl-raddedigion ac ymchwilwyr gyrfa gynnar (hunan-ddiffiniedig) sy’n gweithio ar agweddau ar fudo yng Nghymru neu wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru. Nod y symposiwm ar-lein yw darparu awyrgylch cefnogol i ymchwilwyr rannu eu syniadau ar waith drafft a derbyn sylwadau adeiladol. Bydd pob cyfrannwr yn rhoi cyflwyniad 15 munud o hyd wedi’i ddilyn gan sesiwn H+A.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno, e-bostiwch grynodeb o ddim mwy na 250 gair, ynghyd â’ch enw, eich cysylltiad (os oes un), a manylion cyswllt at Dr Catrin Wyn Edwards (cwe6@aber.ac.uk) erbyn canol dydd ar 19eg Ebrill 2023. Byddwn yn eich hysbysu erbyn 21ain o Ebrill. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Dr Catrin Wyn Edwards.

Sefydlwyd Ymchwil Mudo Cymru ym mis Gorffennaf 2021 i annog cydweithio rhwng ymchwilwyr ar draws sefydliadau yng Nghymru i ddarparu ffocws cenedlaethol ar gyfer ymchwil mudo a dwyn ynghyd academyddion, rhanddeiliaid ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda mudwyr ar faterion sy’n effeithio ar fudwyr.


Rhannu