Mae Cip ar Ddata newydd o thema ymchwil Tai a Digartrefedd YDG Cymru yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil i achosion sylfaenol marwolaeth ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r brif ffynhonnell wybodaeth ar y pwnc hwn yng Nghymru yn dod o amcangyfrifon blynyddol a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Diben y dadansoddiad yn y Mewnwelediad Data hwn oedd archwilio’r potensial o gysylltu data gweinyddol i ddarparu ffynhonnell ychwanegol o wybodaeth am farwolaethau ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd. Mae’n defnyddio data a gafwyd gan YDG Cymru ar bobl sydd wedi ceisio cymorth gan wasanaeth digartrefedd awdurdod lleol.
Mae achosion marwolaeth a nodwyd ymhlith pobl sy’n cysylltu â’r gwasanaeth digartrefedd yn cael eu cymharu ag astudiaethau tebyg yng Nghymru gan ddefnyddio data gweinyddol. Canfuwyd bod natur a graddau achosion marwolaeth sylfaenol yn amrywio rhwng astudiaethau, yn enwedig marwolaethau oherwydd damweiniau a hunanladdiad.
Mae canfyddiadau’n dangos sut mae ymchwilwyr yn diffinio digartrefedd, a’r ffynonellau data sy’n cael eu dadansoddi, yn gallu dylanwadu ar dystiolaeth a gynhyrchir am y grŵp hwn o bobl.
Cyhoeddwyd y hwn yn wreiddiol ar wefan ADR.