Plant a phobl ifanc Ynys Môn yn cael y cyfle i ddweud eu dweud ar newid yn yr hinsawdd


Group of children drawing Earth.

Mae Ynys Môn yn ganolbwynt i brosiect ymchwil sy’n ceisio mesur effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gymunedau lleol a faint maen nhw’n gwybod amdano.

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn rhan o dîm a arweinir gan Brifysgol Caergrawnt mewn cydweithrediad â Phrifysgol Wrecsam, sydd yn creu model i gasglu data ar lefel leol a allai lywio a dylanwadu ar bolisïau gwyrdd.

Mae’r tim wedi derbyn un o bedwar grant Ecosystem Pontio Gwyrdd newydd gwerth £4.6 miliwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Byddant yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau ym Môn i ymchwilio i farn plant a phobl ifanc ar newid yn yr hinsawdd a sut mae wedi effeithio, neu sut y gallai effeithio ar ble maent yn byw a’r ffyrdd y gallent addasu iddo. Byddant yn defnyddio’r data hwn i greu Platfform Mapio Cyhoeddus ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd ystafell wledig grwydrol a wnaed gan y gymuned yn teithio o amgylch Môn yr haf nesaf gan ddarparu man rhyngweithiol a chydweithredol ar gyfer casglu ymchwil. Bydd ymarferwyr celf, megis beirdd yn helpu academyddion i gynnal gwahanol ymgynghoriadau. Bydd y prosiect hefyd yn cyflogi gwyddonwyr cymunedol i weithio ochr yn ochr â phobl ifanc i gasglu gwybodaeth am faterion hanfodol ond anodd eu mesur megis faint o lygredd maen nhw’n dod i gysylltiad ag ef bob dydd.

Bydd y data hwn yn cael eu digideiddio a’u datblygu’n fap ar-lein rhyngweithiol a allai ddarparu fframwaith ar gyfer sut y caiff newid yn yr hinsawdd ei fonitro ledled Cymru.

Dywedodd Lyndsey Campell-Williams, Prif Swyddog Dros Dro Medrwn Môn, sefydliad sy’n cefnogi sefydliadau cymunedol ar Ynys Môn: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n rhan o bartneriaeth ar y prosiect hwn yn ffordd o ategu ein rhaglen Llunio Lle ar gyfer yr ynys. Bydd cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn ein galluogi i ddarparu rhestr werthfawr o’r asedau sydd ar gael i’n cymunedau er mwyn eu helpu i gyflawni eu blaenoriaethau ar lefel leol. Mae adeiladu cymunedau dyfeisgar yn ymwneud i raddau helaeth â sut rydym yn gweithio’n rhan o bartneriaeth, i rannu adnoddau, gwybodaeth a phrofiad i gael y gorau allan o’n cymunedau ac ar eu cyfer, ac mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar yr agwedd hon”.

Meddai’r Athro Scott Orford (WISERD): “Mae’n bwysig ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o gofnodi barn plant a phobl ifanc ar newid yn yr hinsawdd. Nhw yw cenhedlaeth y dyfodol a fydd yn cael eu heffeithio gan benderfyniadau llunwyr a chynllunwyr polisïau. Er gwaethaf hyn, mae eu barn yn aml yn cael ei hanwybyddu ac felly nod y prosiect hwn yw rhoi llais iddynt. Gobeithiwn y gallai’r ymchwil hwn fod yn beilot ar gyfer prosiect Cymru gyfan a thu hwnt, wrth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau chwilio am ffyrdd o wneud penderfyniadau gwybodus ar y cyfnod pontio gwyrdd sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”

Dywedodd yr Athro Flora Samuel o Brifysgol Caergrawnt: “Ni ellir mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd heb ddod a’r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas a lle maent yn digwydd i’r golwg, a mynd i’r afael â nhw. Gallwn ond wneud penderfyniadau gwybodus pan fyddwn yn gwybod beth sy’n digwydd, ble mae’n digwydd, a sut mae pobl yn addasu i newid yn yr hinsawdd.

Nod y prosiect pragmatig hwn yw creu Platfform Map Agored Cymunedol a fydd yn dod â haenau lluosog o wybodaeth ofodol ynghyd i roi darlun cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd o’r hyn sy’n digwydd mewn cymdogaeth, ardal, awdurdod lleol, rhanbarth neu genedl.

Dywedodd yr Athro Alec Shepley o Brifysgol Wrecsam: “Ymateb emosiynol i newid neu gymhlethdod yn aml yw ein hymateb cyntaf a ninnau’n fodau dynol – mae sut rydyn ni’n teimlo yn wirioneddol bwysig. Mae’r prosiect hwn yn dod â dulliau ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau, gyda gwyddoniaeth a thechnoleg ynghyd, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned – yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc, i ystyried yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw nawr ac i’r dyfodol.

“Gall y celfyddydau godi cwestiynau anghyfforddus a datgelu materion anodd – yn aml mewn ffordd fywiog. Ein nod yw defnyddio’r cyfle amhrisiadwy hwn i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a thrwy weithgareddau celfyddydol, cynnal archwiliad trylwyr i’r holl bethau hyn. Rydyn ni eisiau dathlu dyheadau ar gyfer y dyfodol ond hefyd dweud beth sydd ei angen i fyw bywyd da.”

 

 

 

Ymddangosodd yr eitem newyddion hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd.

Credyd delwedd: FatCamera trwy iStock.

 


Rhannu