Grŵp gwyddoniaeth drwy law dinasyddion yn croesawu’r cam nesaf wrth iddyn nhw ymchwilio i ansawdd aer lleol


Air pollution monitor on a lamp post in Barry

Yn ddiweddar, bu ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Nick Hacking, ynghyd ag aelodau Grŵp Gwyddoniaeth Dinasyddion y Barri, yn goruchwylio’r gwaith o osod monitor llygredd aer o safon uchel gan Think Air Ltd. Dyna oedd cam newydd yn ymchwil y grŵp i ansawdd aer lleol.

Yr ymchwil barhaus hon gan y grŵp cymunedol lleol yw ffocws prosiect ymchwil gan Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) sy’n cynnwys ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Rob Evans, Dr Jamie Lewis a Dr Nick Hacking, o’r enw Arbenigwyr, arbenigedd a gwyddoniaeth drwy law dinasyddion: astudiaeth achos sy’n monitro ansawdd aer. Hoffai’r tîm wybod sut a pham mae grwpiau gwyddoniaeth gan ddinasyddion yn rhan bwysig o’r gymdeithas sifil, yn enwedig mewn perthynas â herio gwybodaeth ac arbenigedd lleol sy’n cael eu trin mewn ffordd annheg.

Mae’r tîm ymchwil wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gydag aelodau’r grŵp, gan lunio rhwydwaith bach ond egnïol o wyddonwyr lleyg sy’n cynnal wyth cit ansawdd aer a osodwyd gan aelodau’r grŵp ar do eu tai. Wedyn, maen nhw’n casglu ac yn dadansoddi’r data y mae’r rhain yn ei greu. Mae’r unedau hyn yn seiliedig ar ficroelectroneg ‘oddi ar y silff’ a gafodd WISERD, gan alluogi aelodau o’r gymuned i gymryd rhan yn yr astudiaeth.

Gosod y pecyn newydd hwn gan Think Air, cwmni ansawdd aer yn Llanelli, yw’r cam nesaf yn ymchwil y grŵp ar ansawdd aer yn lleol. Yr offer proffesiynol hwn, sy’n meddu ar safonau angenrheidiol y llywodraeth, yw’r dechnoleg ddiweddaraf un o ran cofnodi ystod o allyriadau yn fanwl gywir. Byddan nhw’n rhoi data mwy awdurdodol i’r grŵp ac yn gallu helpu i herio data swyddogol os bydd angen, yn ogystal â bod yn feincnod i gymharu’r data sydd eisoes yn cael ei gasglu o amgylch yr ardal.

Dyma a ddywedodd Dr Nick Hacking o Brifysgol Caerdydd:

Dylai trigolion y Barri fod yn falch bod y dref yn fywiog iawn o ran gweithgareddau dinesig. Gobeithiwn y bydd yr holl drigolion yn ymddiddori yn y ‘wyddoniaeth gymunedol’ sy’n digwydd ar garreg eu drws ar hyn o bryd. Caiff unrhyw un gymryd rhan ni waeth beth yw ei ddiddordebau na’i gefndir. Rydyn ni’n awyddus i barhau â’n perthynas waith gyda’r gymuned drwy ‘gyd-gynhyrchu’ rhagor o ddata amgylcheddol newydd yn y dref.

 

Ffotograff gan Dr Nick Hacking.


Rhannu