COVID-19: ymatebion mewn cymdeithas sy’n newid yn gyflym


Coronavirus

 

Mae firws COVID-19 yn newid y ffordd rydym ni’n byw ein bywydau, ac mae ein cymdeithas a’n heconomi’n gorfod addasu. O gau ysgolion a’r newidiadau o ran asesu i rôl cymdeithas sifil a’r effaith ar weithwyr, gall ein hymchwil helpu i wneud synnwyr o rai o’r newidiadau hyn. Dros yr wythnosau nesaf, er mwyn archwilio’r materion hyn a rhannu ein canfyddiadau, bydd WISERD yn cyhoeddi cyfres o flogiadau. 

Mae WISERD wedi cronni arbenigedd sylweddol mewn ymchwil ar gymdeithas sifil. Roedd ein canolfan ymchwil cymdeithas sifil flaenorol a gyllidwyd gan ESRC yn gyfle i edrych ar wirfoddoli, rôl y sector gwirfoddol yn darparu gofal cymdeithasol, heneiddio a chyfranogiad pobl hŷn mewn cymdeithas sifil, yr economi sylfaenol, marchnadoedd llafur a rôl undebau llafur. Mae’r gwaith hwn yn parhau fel rhan o’n canolfan newydd a gyllidir gan ESRC ‘Newid safbwyntiau ar Haeniad Dinesig a Thrwsio Sifil’. Bydd ymchwil helaeth WISERD i addysg, yn enwedig mewn perthynas â lles plant ac anghydraddoldeb addysgol, hefyd yn cynnig dealltwriaeth newydd mewn cyd-destun o gau ysgolion ac asesiadau athrawon.

Cafodd galwad diweddar NHS England am wirfoddolwyr i helpu i amddiffyn y bobl â’r risg mwyaf rhag COVID-19 ymateb gan dros 750,000 o bobl a gofrestrodd ar-lein o fewn dyddiau. Mae ymchwil WISERD wedi edrych ar y ffyrdd y mae’r sector gwirfoddol yn ymwneud yn gynyddol â datblygu a chyflenwi gofal cymdeithasol yn ogystal ag edrych ar y ffactorau sy’n pennu tebygolrwydd pobl i wirfoddoli mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr.

Mae ymateb y llywodraeth i gyfyngu’r pandemig COVID-19 wedi achosi sioc ddramatig i farchnad lafur y DU, gyda newidiadau digynsail ym mhatrwm y galw ar draws diwydiannau a symudiad arbennig o ddramatig at weithio gartref. Er gwaethaf ymyriad polisi ar raddfa fawr yn y farchnad lafur i leihau diswyddiadau, mae’n annhebygol y bydd effaith y pandemig i’w deimlo’n gyfartal ymhlith gweithwyr.

Mae ymchwil WISERD ar anghydraddoldeb y farchnad lafur cyn hyn wedi sefydlu graddfa’r anfantais a wynebir gan grwpiau gwarchodedig yn cynnwys mewn perthynas â chyflogaeth a thâl, ac mae wedi olrhain sut mae hyn yn amrywio ar draws rhanbarthau ac amser, fel mewn ymateb i ddeddfwriaeth cydraddoldeb a’r cylch economaidd. Bydd ein gwaith yn y dyfodol yn bwysig er mwyn nodi a deall effeithiau tymor byr a thymor hir gwahaniaethol y pandemig rhwng grwpiau o weithwyr fel y rheini a ddiffinnir yn ôl rhywedd, addysg, oed, hil, anabledd neu ranbarth, a llywio ymateb polisi wedi’i dargedu i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd fwyaf arnynt.

Mae undebau llafur wedi bod yn gweithredu i ddiogelu hawliau gweithwyr yn y sefyllfa economaidd ansefydlog hon lle mae llawer yn gweithio ar y llinell flaen. Mae ymchwil WISERD wedi dadansoddi ymateb yr undebau i fyd newidiol y gweithle ac mae ein hymchwil newydd ar gymdeithas sifil yn edrych ar yr economi gig, maes lle mae llawer o weithwyr bellach yn arbennig o fregus, yn gorfforol ac yn ariannol.

Mae Covid-19 yn cael effaith sylweddol ar sector tai’r DU, gan adael llawer o bobl fwyaf bregus cymdeithas yn wynebu ansicrwydd sylweddol. Mae ein hymchwilwyr yn gweithio gyda Chanolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai. Dilynwch eu blog am y diweddaraf ar faterion tai allweddol sy’n codi yn sgil y pandemig.

Gydag ysgolion ar draws y DU wedi cau ac arholiadau wedi’u canslo, bydd ymchwilwyr WISERD yn rhannu eu meddyliau ar yr effaith fydd cau ysgolion yn ei gael ar gynnydd academaidd, lles ac anghydraddoldebau addysgol ymhlith plant a phobl ifanc. Gan dynnu ar ddadansoddiad diweddar data Astudiaeth Carfan y Mileniwm byddant yn ymchwilio’r rôl y gallai tueddiadau athrawon ei chwarae mewn asesiadau disgyblion. Caiff ymchwil cymdeithas sifil yn edrych ar ddiweithdra pobl ifanc yn y cenhedloedd datganoledig ei chynnal bellach yn wyneb newid yn y rhethreg wleidyddol ynghylch nawdd cymdeithasol a chyd-destun economaidd gwahanol iawn.

Mae ein gwaith ar yr economi sylfaenol yn rhagweld sut y gallai pethau fod yn wahanol mewn byd  ar ôl COVID-19. Yr economi sylfaenol yw’r rhan honno o’r economi sy’n cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau hanfodol a ddefnyddir gan bawb waeth beth fo’u hincwm neu eu statws. Mae’r argyfwng hwn wedi amlygu gwendidau yn ein model economaidd presennol ac wedi codi ymwybyddiaeth o rannau allweddol o’n heconomi a’n cymdeithas na ellir caniatáu iddynt ddod i ben – y swyddi hynny a wneir gan ‘weithwyr allweddol’. Mae’r rhan hon o’r economi’n addas iawn ar gyfer datblygu modelau newydd o gyd-gynhyrchu ar gyfer cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus fel addysg, gofal henoed a thai, lle gall awdurdodau lleol weithio gyda’r gymdeithas sifil.

Mae dod â’r agwedd wahanol hon i feysydd o’n bywydau fel darparu bwyd mewn ysgolion a gofal cymdeithasol, yn golygu bod angen i wleidyddion roi’r gorau i’r agenda llymder ac yn lle hynny ddefnyddio grym pwrcasu mewn ffyrdd mwy strategol a thrawsnewidiol i hyrwyddo iechyd cyhoeddus, cyfiawnder cymdeithasol ac unplygrwydd ecolegol. Mae papur diweddar a luniwyd gan yr Economi Sylfaenol Gyfunol, ‘What Comes after the Pandemic?’, sy’n cydweithio gyda Rhwydwaith Economi Sylfaenol WISERD, yn herio syniadau prif ffrwd am yr hyn y dylai polisi economaidd fod ac yn manylu ar lwyfan deg pwynt ar gyfer adnewyddu.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae ymchwilwyr WISERD wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar brosiect ROBUST. Mae’r themâu hyn; ystyried cysylltiadau gwledig – trefol gyda ffocws ar fwyd cynaliadwy, seilwaith, a diwylliant, wedi dod yn bwysicach fyth yn ystod argyfwng COVID-19. Gyda chadwyni cyflenwi byd-eang yn profi aflonyddwch enfawr, mae’r effaith ar y prosesau hynny sy’n cludo bwyd i mewn, allan ac ar draws Cymru yn enfawr.  Mae eu hymchwil felly yn tracio ymatebion sy’n codi’n lleol, o siopau pentref yn symud at ddanfon ar-lein i arddwyr guerilla’n plannu cnydau cymunedol.

Yn rhyngwladol bydd angen i’n hymchwil addasu i’r cyd-destun byd-eang newidiol. Mae’r Athro W John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme, yn edrych ar effaith dyngarol y pandemig fel rhan o’i ymchwil i rôl cyrff rhyngwladol fel UNESCO sy’n cefnogi cydweithio er lles pawb.

Mae ymchwilwyr WISERD ar brosiect Horizon 2020 IMAJINE yn addasu eu hymchwil ar anghydraddoldebau tiriogaethol a chyfiawnder gofodol i ymchwilio i gwestiynau’n ymwneud â’r argyfwng, gan gynnwys a allai anghydraddoldebau mewn darpariaeth gofal iechyd gyfrannu at effaith COVID-19, canfyddiadau o gyfiawnder gofodol mewn ymatebion i’r pandemig, ac ystyriaethau llywodraethu aml-haenog wrth ymdrin â’r argyfwng. Maen nhw hefyd yn tynnu ar eu dadansoddiad o effeithiau anghyfartal argyfwng economaidd 2008 a gwerthusiad o effeithiolrwydd polisïau cydlyniant yr UE i ystyried y ffordd orau i lywodraethau ymateb i anghydraddoldebau rhanbarthol o ran effaith economaidd yr argyfwng presennol.

I ddilyn y gyfres blogiau ewch i’n gwefan yn rheolaidd neu dilynwch ni ar Twitter @WISERDNews.

 

Swyddi blog:


Rhannu