CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig


Aerial drone shot of several clean energy wind turbines in a rural area of South Wales.

Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr WISERD-CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau CWPS Lowri Cunnington Wynn a Rhys Jones yn ogystal ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Swydd Gaerloyw a phartneriaid anacademaidd gan gynnwys Together for Change, CAT, ac eraill. Ei nod yw llenwi bylchau tystiolaeth, hwyluso cyfnewid gwybodaeth, a meithrin gallu i gefnogi polisi ac arloesedd gwledig, trwy weithgareddau gan gynnwys labordai arloesi, ymchwil gweithredu a arweinir gan y gymuned, ymchwil ymatebol, arolygon, dadansoddi data, ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Darganfyddwch fwy yma.

Credyd delwedd: WhitcombeRD trwy iStock


Rhannu