Cwymp yn nifer siopau gwag Cymru yn ôl ymchwil WISERD


Bu 13% o siopau ar strydoedd mawr Cymru’n wag yn 2017

Mae angen mentrau newydd i lenwi siopau gwag a sicrhau bod strydoedd mawr yn ffynnu ledled Cymru, yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan academyddion WISERD a Phrifysgol Caerdydd.

Mae trydydd adroddiad blynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a’r Local Data Company (LDC) yn dangos bod 13% o eiddo manwerthu ar strydoedd mawr Cymru yn wag yn 2017. Er bod hyn yn ostyngiad bach o’r flwyddyn flaenorol (13.2%), mae ymchwil yn dangos bod y wlad ar ei hôl hi o hyd o gymharu â gweddill y DU. Dim ond 11.1% o siopau oedd yn wag yn Lloegr yn 2017, ac 11.9% yn yr Alban.

Mae’r trefi â’r nifer fwyaf o siopau gwag yn cynnwys Aberdaugleddau, Abertyleri a Thonypandy, lle mae mwy nag un o bob pump siop yn wag. Mae’r gyfran isaf o eiddo gwag ym Mhenarth, Cwmbrân a Chonwy, lle mae llai na 5% o siopau’n wag.

Cafodd y dadansoddiad ei drafod yn uwchgynhadledd Manwerthu a Hamdden Cymru, a gynhaliwyd ar Ddydd Mawrth 23 Ionawr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Dr Scott Orford, Cydlynydd Ymchwil Data WISERD a Darllenydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Mae yna berthynas glir o hyd rhwng lefelau lleol o amddifadedd a chyfraddau eiddo manwerthu gwag. Mewn rhai trefi, mae bron i ddau o bob pump safle gwag wedi bod yn wag ers mwy na thair blynedd. Mae angen mwy o fuddsoddiad i ddechrau ailddefnyddio’r safleoedd hyn a sicrhau bod ein strydoedd mawr yn fywiog i’r cymunedau sy’n dibynnu cymaint arnyn nhw.”

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at dwf y manwerthwr annibynnol. Mae nifer y sefydliadau nad ydynt yn gadwyni wedi codi o 54% i 58% ers 2013. Ond mae’r ffigurau hyn o hyd yn is na gweddill y DU ar 65%.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng nghyfran y siopau annibynnol ers 2013 yn Noc Penfro, Aberdaugleddau a Rhuthun. Gwelwyd y dirywiad mwyaf yn nhrefi Aberhonddu, Llandrindod ac Abergele.

Ychwanegodd Dr Orford: “Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd yn nifer y manwerthwyr annibynnol, gyda thwf amlwg yn ardaloedd mwy gwledig Cymru. Mae datblygiad o’r fath yn galonogol o ystyried bod rhai manwerthwyr mawr yn lleihau eu nifer o siopau, a gallai hyn ddangos bod defnyddwyr yn chwilio am rywbeth gwahanol ar y stryd fawr i’r hyn y gallant ddod o hyd iddo ar-lein.”

Dywedodd Chris Fowler, Rheolwr Perthnasau yn y Local Data Company: “Mae trefi Cymru yn parhau i weld newid o siopau Manwerth Nwyddau Cymharol i Hamdden (bwyd diod ac adloniant) a Gwasanaethau – sy’n adlewyrchu’r duedd ehangach a welir yn Lloegr a’r Alban wrth i ganol trefi ddatblygu ac wrth i’r profiad a gynigir i bobl ddod yn bwysicach o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr.

“Mae lleoliadau mwy anghysbell yn dueddol o fod â chyfraddau eiddo manwerthu gwag is, gyda mwy o siopau annibynnol a llai o gystadleuaeth gan ganolfannau cyfagos. Gall gostyngiad yn nifer y meddianwyr annibynnol yn yr ardaloedd hyn fod yn rhybudd o fygythiad posibl i’w llwyddiant wrth i fwy a mwy o bobl gael mynediad i’r rhyngrwyd.

“Dylai busnesau yn y lleoliadau anghysbell hyn achub y blaen i sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar unrhyw gynnydd mewn cysylltedd.  Erbyn hyn, mae’n fwy cost-effeithiol o lawer i feddianwyr ddefnyddio’r llwyfannau technoleg diweddaraf i’w mantais – drwy dynnu sylw at ansawdd eu gwasanaeth ar-lein i gynyddu nifer yr ymwelwyr.  Gall hyn fod yn fwy pwerus pan fo’r ymdrechion yn cae eu cydlynu fel rhan o ymgyrch ar draws stryd neu ardal ehangach.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael gan yr LDC drwy glicio yma.


Share