Understanding Welsh Places Logo

 

Trosolwg

Gwefan yw Deall Lleoedd Cymru a’i nod yw bod y pwynt cyswllt cyntaf er mwyn cael gwybodaeth ystadegol am drefi a chymunedau yng Nghymru.

Mae cyfran sylweddol o bobl yng Nghymru yn byw mewn trefi a chymunedau bychain. Fodd bynnag, mae polisi cyhoeddus yn esgeuluso lleoedd o’r fath yn rhy aml. Er bod cyllid wedi’i dargedu ar gael ar gyfer rhanbarthau dinesig a datblygu ardaloedd gwledig, nid oes unrhyw beth ar gyfer tref i yn benodol. Hefyd, nid oes digon o ddata am drefi ar gael mewn un lleoliad hwylus a allai gael ei ddefnyddio i lywio datblygiad polisi a rhoi tystiolaeth o ymarfer da presennol.

Gan geisio mynd i’r afael â’r mater hwn, mae Ymddiriedolaeth Carnegie UK, y Sefydliad Materion Cymreig, y sector preifat a’r trydydd sector, a’r tîm yn WISERD, y Ganolfan ar gyfer Strategaethau Economaidd Lleol, wedi datblygu gwefan Deall Lleoedd Cymreig.

Ar y wefan hon, cewch ddata a gwybodaeth ddaearyddol ddefnyddiol am eich tref neu eich ardal leol, i’ch helpu chi i amlygu cyfleoedd i’ch cymuned. Bydd y graffeg, y mapiau a’r arweiniad yn eich helpu i archwilio’r data y mae ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth yn y man lle’r ydych chi’n byw neu’n gweithio.

Mae’r wefan yn amlygu’r lleoedd yng Nghymru sydd fwyaf tebyg i’ch pentref, tref neu gymuned. Gallai archwilio’r pethau sy’n debyg a’r cyferbyniadau rhyngddynt roi syniadau i chi ar gyfer eich lle, neu gallwch rannu enghreifftiau o’ch arfer gorau gydag eraill.

>Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu fwy o drigolion; dyna gyfanswm o dros 300 o leoedd. Mae ystadegau a dadansoddiad manylach wedi’u cynnal ar gyfer lleoedd gyda mwy na 2,000 o drigolion.

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael ar dudalennau gwe Deall Lleoedd Cymreig.

 

Deall Lleoedd Cymreig Webinar 2021

 

 

Cyfweliad gyda’r Athro Scott Orford, Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Scott Orford o Brifysgol Caerdydd yn esbonio sut mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn cyflwyno data defnyddiol a gwybodaeth ddaearyddol am eich tref neu ardal leol. Gall eich helpu i ganfod cyfleoedd ar gyfer eich cymuned a deall y berthynas rhwng eich ardal a mannau eraill gerllaw. Mae hefyd yn caniatáu i grwpiau cymdeithas sifil a chymunedol lleol ddysgu mwy am y mannau lle mae eu haelodau’n byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden.