Mae’r Athro Gary Higgs a’i dîm wedi derbyn Gwobr Effaith USW am eu hymchwil sy’n ceisio gwella gwasanaethau canser symudol. Cafodd yr ymchwil ei gynnal ar y cyd gyda Gofal Canser Tenovus ac mae’n sicrhau bod triniaeth canser yn cael ei darparu yn nes at gartrefi cleifion drwy ehangu cyrhaeddiad y gwasanaethau symudol.
Gweithiodd yr Athro Gary Higgs a Richard Williams, myfyriwr PhD, o Grŵp Ymchwil SGDd ar y prosiect ‘Gwella gwasanaethau canser symudol gan ddefnyddio technolegau gofodol ffynhonnell agored’, i ddatblygu dulliau a modelau GIS manwl fel bod Tenovus yn gallu chwilio am anghydraddoldebau gofodol o ran mynediad at wasanaethau a gwella lleoliad a chynnal gwasanaethau iechyd symudol.
Bydd y gwaith hwn yn golygu bod Tenovus yn gallu trin cleifion yn nes at adref, ymestyn cyrhaeddiad eu gwasanaethau, a helpu i leihau straen, pryder a blinder y claf.
Ychydig ohonom sydd heb gael ein heffeithio mewn unrhyw ffordd o gwbl gan ganser. Felly, mae’r ymchwil hon wedi rhoi boddhad arbennig o ystyried yr angen i leihau’r pellteroedd dan sylw i gael triniaeth a chyngor. Mae’r manteision i gleifion ar adeg arbennig o anodd yn glir – lleoliadau mwy cyfleus a hygyrch ar gyfer triniaeth a manteision amgylcheddol o ran lleihau’r milltiroedd teithio.
Mae Gwobrau Effaith USW yn dathlu ymchwil sy’n effeithio ar y gymuned a chymdeithas ehangach yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.