Ar 22 Medi, cynhaliodd WISERD y cyntaf o dri gweithdy a drefnwyd gan Rwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru newydd WISERD.
Nod ‘Cyflawni Effaith y Tu Hwnt i Ymchwil’ yw cynnig yr adnoddau sydd eu hangen ar academyddion ar bob cam o’u gyrfa i drosglwyddo eu harbenigedd a’u gwybodaeth o’r byd academaidd a’r gynulleidfa academaidd i’r gymuned polisi ac ymarfer.
Roedd hyn yn cynnwys sut i nodi a rhyngweithio â llunwyr polisi a rhanddeiliaid, mabwysiadu dull effeithiol o ymdrin â materion cyhoeddus, a sut i ddatblygu a chyfleu negeseuon clir a chymhellol ar gyfer llunwyr polisi a rhanddeiliaid.
Roedd panel arbenigol o siaradwyr yn cynnwys:
- Anne Hubbard, Rheolwr, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru
- Yr Athro Sergei Shubin, Athro a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Polisi Ymfudo ym Mhrifysgol Abertawe
- Hannah Johnson, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfnewid Gwybodaeth, Senedd Cymru
Cadeiriwyd y sesiwn gan Dr Catrin Wyn Edwards, Prifysgol Aberystwyth, sydd hefyd yn arweinydd Rhwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru WISERD, ochr yn ochr â Rhys Dafydd Jones, Darlithydd Daearyddiaeth Ddynol, sydd hefyd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Meddai Dr Edwards: “Hwn oedd y cyntaf o dri gweithdy ‘Cyflawni Effaith y Tu Hwnt i Ymchwil’ a drefnwyd gan y rhwydwaith, ac mi roedd yn hynod lwyddiannus o ran sefydlu cysylltiadau newydd rhwng ysgolheigion yng Nghymru sy’n gweithio ar ymfudo a nodi bylchau allweddol rhwng y byd academaidd, polisi ac ymarfer.
“Rydyn ni’n gobeithio adeiladu ar yr egni a’r awydd hwn i gydweithio a sgwrsio yn ystod y misoedd nesaf. Rydym hefyd yn gobeithio bod y rhwydwaith yn gweithredu fel catalydd ar gyfer llunio polisïau yn fwy seiliedig ar dystiolaeth, yn cefnogi dulliau amgen o ymgysylltu ag ymfudo ac yn helpu i bontio’r bwlch rhwng y byd academaidd ac amrywiol randdeiliaid a chymunedau. ”