I am a social and political geographer interested in migration and multiculturalism in minority nations and rural societies. I graduated with a BA in Geography and International Politics in 2006, before taking an MA in Space, Place & Politics in 2007. I completed my PhD, Faith, Identity, and the everyday: the quotidian geographies of Muslims in west Wales in 2011, under the supervision of Professor Mike Woods and Professor Rhys Jones. After seven years as a student here, I formally joined the DGES staff as a Teaching Fellow in 2010, and was appointed to a Lectureship in Human Geography (initially funded by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol) in 2011.
My research areas can be categorised under three distinct fields, which broadly address questions of cohesion, inclusivity, and conviviality. Firstly, I am interested in migration and multiculturalism in rural regions and in minority nations. Secondly, I am fascinated by questions about the (continued) role of religion and religious diversity in society, including motivation for participation in civil society. Finally, I am eager to explore ‘more-than-civic’ participation in civil society, including actions which may be considered radical and extreme. A final, emerging field of interest is related to uncertainty and hostility in the context of Brexit.
Rwy’n ddaearyddwr cymdeithasol a gwleidyddol gyda diddordeb mewn mudo ac amlddiwylliannedd mewn cenhedloedd lleiafrifol a chymdeithasau gwledig. Graddiais gyda BA mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 2006, cyn cymryd MA mewn daearyddiaeth wleidyddol yn 2007. Cwblheais fy noethuriaeth, a oedd yn ystyried profiadau beunyddiol Mwslemiaid yng ngorllewin Cymru, yn 2011 o dan cyfarwyddyd yr Athro Mike Woods a’r Athro Rhys Jones. Wedi saith mlynedd fel myfyriwr yn yr ADGD, ymunais â’r staff yn ffurfiol yn 2010 fel Cymrawd Dysgu.
Fe’m penodwyd i Ddarlithyddiaeth mewn Daearyddiaeth Ddynol (a gyllidwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol tan 2016) yn 2011. Mae fy niddordebau ymchwil yn cwympo i dri maes, gydag edefion cyffredin themâu cydlynu cymdeithasol, cynwysoldeb, a sirioldeb/cyd-fyw yn rhedeg trwyddynt. Yn gyntaf, mae gen i ddiddordeb mewn mudo ac amlddiwylliannedd mewn rhanbarthau gwledig a chenhedloedd lleiafrifol. Yn ail, rwy’n ymddiddori mewn cwestiynau am barhad rôl crefydd mewn cymdeithas, gan gynnwys fel cymhelliant ar gyfer cyfranogi, ac amrywiaeth grefyddol. Yn olaf, rwy’n awyddus i archwilio cyfraniadau mewn cymdeithas sifil sydd ddim bob tro’n cael eu derbyn fel rhai ‘da’; hynny yw, cyfraniadau sy’n medru cael eu hystyried yn radical neu’n eithafol. Maes arall sy’n dechrau ymddangos yw’r ansicrwydd ac atgasedd sy’n ymddangos yng nghyd-destun ‘Prymadael’ (neu Brexit).
Rhys Dafydd Jones Bio