Cynnal 10fed Cynhadledd Flynyddol WISERD


Keynote speaker presenting to delegates

Cynhaliwyd 10fed Cynhadledd Flynyddol WISERD ar 3 a 4 Gorffennaf yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Thema’r gynhadledd eleni oedd Cymdeithas Sifil a Chymryd Rhan, a denodd y digwyddiad, sef cynhadledd y gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru, dros 100 o gynadleddwyr o’r sectorau academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.

Dechreuodd y gynhadledd gyda dwy sesiwn hyfforddiant, a oedd yn cynnig y cyfle i gynadleddwyr ddysgu mwy am BorthData WISERD – adnodd darganfod data am ddim – a sut i gyhoeddi mewn cyfnodolion cydnabyddedig. Roedd y ddwy sesiwn yn cynnig cyngor arbenigol ac ymarferol i ymchwilwyr, ac yn ddechrau ysgogol i’r gynhadledd eleni.

Yn sgil gair o groeso gan Gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Sally Power, dechreuodd y gynhadledd yn swyddogol gyda chystadleuaeth cyflwyno posteri Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Cyflwynodd Abeer Alabdan a Maram Alamri, y ddau yn fyfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Bangor, eu hymchwil i gynulleidfa lawn o gynadleddwyr. Llongyfarchiadau i Abeer, a ddaeth yn fuddugol ar ôl pleidlais gan y cynadleddwyr am gyflwyno ei phoster ynghylch ‘Reflections of Commonality and Differentiation in VI Education: Curriculum, Pedagogy, and Teacher Training’.

Cyflwynwyd mwy na 40 o bapurau dros y deuddydd, yn archwilio ymchwil ryngddisgyblaethol o Gymru a’r tu hwnt, gan ganolbwyntio ar ddulliau o drin cymdeithas sifil a chymryd rhan sydd wedi’u mabwysiadu mewn ystod eang o feysydd polisi.

Roedd y rhain yn cynnwys amrywiaeth eang o themâu, o adfywio iaith a’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, i batrymau newidiol lluosogaeth lles, naratifau twf lleol yn y DU a llywodraethu trychinebau yn India.

Uchafbwynt y digwyddiad oedd y brif ddarlith gan yr Athro Sarah Neal (Prifysgol Sheffield) ynghylch ‘Revisiting neighbours and why conviviality matters’. Cyflwynodd yr Athro Neal ganfyddiadau o gyfweliadau peilot, gan dynnu sylw at natur radical ac unigryw cysylltiadau cymdogion, a phwysigrwydd y perthnasoedd cymdeithasol hyn wrth ddeall cymdeithas sifil.

Drwy gydol y digwyddiad, manteisiodd cynadleddwyr hefyd ar y cyfle i wylio’r gystadleuaeth posteri i ôl-raddedigion, a noddwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Llongyfarchiadau i Sophie Baker o Brifysgol Bangor am ennill gyda’i hymchwil ESRC ynghylch ‘Perceptions of belonging in service users with psychosis living in linguistically mismatched communities in North Wales’.

Daeth y diwrnod cyntaf i ben gyda derbyniad a gynhaliwyd gan Rwydwaith Gwleidyddiaeth a Llywodraethu newydd WISERD, a arweiniwyd ar y cyd gan Dr Matthew Wall a Dr Bettina Petersohn o Brifysgol Abertawe.

Roedd yn bleser gennym groesawu Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, ar ail ddiwrnod y gynhadledd, a gyflwynodd sesiwn panel llawn arbennig. Yn y sesiwn hon, rhannodd pedwar o gyd-gyfarwyddwyr WISERD o raglen Cymdeithas Sifil WISERD ESRC eu canfyddiadau, ac ystyried ymchwil ryngddisgyblaethol dros y pum mlynedd diwethaf.

Trafodwyd canfyddiadau allweddol gan aelodau’r panel, yn ogystal â’r argymhellion polisi dilynol y byddent yn eu cyflwyno ar gyfer eu meysydd ymchwil priodol. Llinyn cyffredin a ddaeth i’r amlwg o bob arweinydd thema oedd bod ein hymchwil hyd yn hyn wedi ein helpu ni i ddeall mwy am sut mae’r cysyniad o le yn ffurfio cymdeithas sifil.

Gall y lleoedd hyn fod yn gartrefi rydym yn byw ynddynt gyda’n teuluoedd – ac i ryw raddau, ein cymdogion – a’n cymunedau lleol, i’r cylch cyhoeddus ehangach, gan gynnwys ein ffiniau a thu hwnt. Mae pob lle yn cyflwyno ei gyfres ei hun o heriau i gymdeithas sifil, ac rydym yn dibynnu fwyfwy ar ein hactorion cymunedol a rhanbarthol, sefydliadau a llywodraethau i hwyluso cyfranogiad a lleihau anghydraddoldeb.

Gwnaeth y cyd-gyfarwyddwyr hefyd edrych i’r dyfodol at raglen Cymdeithas Sifil WISERD newydd ESRC, ar ‘haeniad dinesig ac atgyweirio sifil,’ sy’n dechrau ym mis Hydref. Gwnaethant bwysleisio, er bod y cam cyntaf o ymchwil cymdeithas sifil wedi cyfrannu at gryfhau ein sefyllfa fel canolfan ymchwil genedlaethol, ystyriaeth allweddol o’r rhaglen newydd fydd penderfynu sut y gallwn ddylanwadu ar bolisi y tu hwnt i Gymru.

Roedd y gynhadledd eleni yng ngofal yr Athro Mike Wood, Cyd-gyfarwyddwr WISERD. Meddai: “Roeddem wrth ein boddau o gynnal Cynhadledd Flynyddol WISERD yn Aberystwyth eleni a dathlu buddsoddiad parhaus Prifysgol Aberystwyth yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD.

“Dros y deuddydd diwethaf rydym wedi gweld rhaglen hynod drawiadol o ymchwil sy’n mynd i’r afael â’r thema Cymdeithas Sifil a Chymryd Rhan, sydd wedi ysgogi cryn dipyn o drafod. Rwy’n gobeithio bod y profiad wedi bod yn ffordd ddefnyddiol iawn i’n siaradwyr ardderchog ddatblygu eu gwaith, yn enwedig y rhai hynny o’n cymuned ôl-raddedig.

“Rydym yn ddiolchgar i’r Athro Sarah Neal a’r Athro Elizabeth Treasure, ac yn wir i’r holl gynadleddwyr, am ymuno â ni i drafod rhai o’r materion mwyaf pwysig y mae cymdeithas gyfoes yn eu hwynebu heddiw yng Nghymru a’r tu hwnt.”

Chwiliwch am #WISERD2019 ar Twitter i ddarllen mwy.


Rhannu